Mwy o brinder staffio i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd iechyd mwyaf Cymru yn paratoi ar gyfer mwy o brinder staff.
Mae gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bron i 17,000 o weithwyr ond mae tua 4,000 ohonyn nhw dros 55 oed, ac felly mae disgwyl iddyn nhw ymddeol yn y blynyddoedd nesaf.
Mae'r bwrdd eisoes yn wynebu trafferthion yn llenwi swyddi ac mae adroddiad fydd yn cael ei ystyried gan y bwrdd a Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru ddydd Iau yn datgelu maint y broblem.
Dywedodd Laurence Osgood, cyfarwyddwr cyswllt y gweithlu a pherfformiad, tra bod cyfradd y swyddi gwag yn is na'r llynedd, mae'n parhau yn uchel mewn dwy ardal benodol - meddygaeth a deintyddiaeth a nyrsio a bydwreigiaeth.
Mae hefyd yn anodd dod o hyd i weithwyr mewn ardaloedd arbenigol gan gynnwys meddygon teulu, gofal i bobl hŷn, obstetreg a gynecoleg.
Mae'r adroddiad yn dweud hefyd bod y nifer y doctoriaid newydd sydd o dan 30 oed ym Mhrydain yn parhau i leihau "yn flynyddol".
O'r 3,983 o staff dros 55 oed mae 1,058 o weithwyr nyrsio a rhai sy'n hyfforddi i fod yn fydwragedd. 224 sy'n gweithio ym maes meddygol a deintyddol.
Mae mwy o debygrwydd y bydd pobl dros yr oed yma yn ymddeol hefyd oherwydd gofynion pensiwn penodol. a thra bod rhai yn dychwelyd mae nifer sy'n gwneud hynny'n gweithio llai o oriau.
Pan fydd gweithwyr yn rhoi'r gorau i'w gwaith mae cyfweliadau'n cael eu cynnal gyda nhw er mwyn clywed eu barn.
Ymhlith yr ymatebion cadarnhaol oedd eu bod yn teimlo y gallan nhw ddylanwadu ar unrhyw newidiadau a bod y rheolwyr yn croesawu eu syniadau.
Ond roedd morâl isel a llwyth gwaith gormodol ymysg y sylwadau negyddol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd18 Medi 2019