Prifysgol Caerdydd i ddylunio helmedau i'r NFL?
- Cyhoeddwyd
Mae mwy a mwy o sylw yn cael ei roi yn ddiweddar i'r effaith mae cyfergyd (concussion) yn ei gael ar y byd chwaraeon, a'r niwed all hyn ei gael ar athletwyr.
Wrth gwrs mae'n fwy o ffactor mewn chwaraeon fel pêl-droed Americanaidd a rygbi, sydd â lot o wrthdrawiadau caled, yn aml i'r pen.
Mae chwaraewyr pêl-droed Americanaidd yn gwisgo helmedau i geisio lleihau'r risg o anaf, ond mae dal llawer o chwaraewyr yn cael niwed hirdymor am flynyddoedd wedi i'w gyrfaoedd ddod i ben.
Mae Adran Beirianneg Prifysgol Caerdydd wedi cael grant gan y National Football League (prif awdurdod pêl-droed Americanaidd yn yr Unol Daleithiau), gyda'r pwrpas o ymchwilio a chreu helmedau fydd yn amddiffyn y chwaraewyr yn well ac osgoi'r niwed hirdymor.
Dr Peter Theobald sy'n arwain y prosiect ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae'n esbonio bod gwahanol fath o anafiadau a all ddigwydd yn dilyn gwrthdrawiadau.
"Ar y funud mae World Rugby yn delio gyda'r hyn a elwir second concussion syndrome. Wrth gwrs, mae bron yn annochel bod rhywun yn cael cyfergyd weithiau, ond y pwysigrwydd yw bod chwaraewr ddim yn cael ail gyfergyd nes eu bod wedi gwella'n llwyr o'r cyntaf.
"Felly mae'r HIA (asesiad o'r pen) yn cael ei ddefnyddio yn fwy rheolaidd ar y cae rygbi heddiw ac mae 'na reolau mwy llym ynglŷn â diogelwch chwaraewyr a'r dulliau taclo.
"Mae'r NFL edrych ar bobl sydd ddim wedi eu hanafu o dan y term 'cyfergyd', ac efallai heb anaf o gwbl yn dilyn gwrthdrawiad, ond os fyddai'r patrwm o wrthdaro yn parhau drwy gydol eu gyrfa gall arwain at anaf hirdymor i'r ymennydd."
Gwaith ymchwil i'r NFL
"Tua phedair neu bum mlynedd yn ôl fe wnaethon ni gydweithio gyda chwmni o'r enw Charles Owen o Wrecsam, sy'n arbenigo mewn creu helmedau ar gyfer marchogion ceffylau.
"Gyda nhw fe enillon ni gystadleuaeth o'r enw Head Health Challenge 3 - rhaglen o weithgareddau ymchwil a oedd yn cael ei rhedeg fwy neu lai gan yr NFL.
"Roedd y rhaglen gan yr NFL wedi ei greu mewn ymateb i'r tebygolrwydd bod y gwrthdrawiadau mae chwaraewyr yn eu cael mewn gêm yn creu niwed dros gyfnod gyrfa rhywun.
"Mae niwrolegwyr a doctoriaid yn credu bod rhai gwrthdrawiadau, sydd i'w gweld yn ddiniwed ar y pryd, yn gallu arwain at anaf hirdymor i'r ymennydd.
"Mae helmedau heddiw wedi eu dylunio i osgoi anaf difrifol ar y cae i'r chwaraewr (fel cael eu taro yn anymwybodol), ac felly mae'r anafiadau eithafol 'ma yn anhebygol o ddigwydd.
"Ond beth dydyn nhw heb ei wneud ydi dylunio helmed sy'n amddiffyn rhag y gwrthdrawiadau lowest energy hefyd.
"Wrth gwrs y math mwyaf difrifol, yr high impact, yw'r flaenoriaeth i ddechrau, ac fel peiriannydd, mae'n anodd dylunio helmed ymarferol sy'n amddiffyn rhag y ddau fath o anaf."
Dros y bum mlynedd diwethaf mae'r adran sy'n ymchwilio i ddylunio helmedau ym Mhrifysgol Caerdydd wedi tyfu, ac maent bellach wedi llwyddo i gael mwy o gyllid gan yr NFL.
"'C3' yw enw'r cysyniad 'dyn ni wedi datblygu ar gyfer y ffordd mae'r deunydd - y metal - wedi ei ffurfio. Mae strwythur y deunydd 'dyn ni'n ei ddefnyddio wedi ei osod mewn ffordd arbennig - os feddyliwch am y ffyrdd gall pac o gardiau gael ei osod neu ei blygu.
"Gyda'r patrwm C3 mae'r panelau yn byclo er mwyn amsugno'r impact tu fewn i'r helmed, gan weithio'n effeithiol ar high impact energy a low energy.
"Y fantais i ni yw ein bod ni'n effeithiol yn adeiladu'r strwythurau cymhleth 'ma gan ddefnyddio printer 3D, a defnyddio cyfrifiaduron i ragweld sut fyddai'r helmed yn gweithio."
Camau nesaf
"Y nod i ni yw i bartneru gyda chwmni helmedau adnabyddus, a thrwyddedu ein deunydd newydd ni i'w ddefnyddio yn eu helmedau presennol.
"Os edrychwch ar helmed beic, mae 'na plastig tu allan a foam tu fewn. Y bwriad ydi tynnu'r foam gwyn allan a rhoi ein deunydd ni i mewn, felly bydde'r helmedau NFL yn edrych yr un peth o'r tu allan."
Dydi'r NFL methu dweud pa helmedau mae rhaid i chwaraewyr neu dimau ddefnyddio, ond mae ganddynt restr o'r helmedau gorau i'w defnyddio a'r rhai salaf - cwmni yr helmed, yn ogystal â'r model.
"'Dyn ni'n cyfarfod â'r NFL yn Ohio fis Tachwedd, a 'dyn ni'n gobeithio defnyddio ein proffil a chysylltiadau i drafod gyda phartneriaid i greu helmedau. Mae gennyn ni ddeunydd rwy'n credu sy'n perfformio'n dda, ond byddai rhaid cydweithio gyda phartneriaid i asesu'n iawn."
Ynghyd â hyn, mae Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd yn parhau i weithio gyda datblygiadau o fewn rygbi hefyd, gan ddylunio'r kicking tee mae maswr Cymru, Dan Biggar yn ei ddefnyddio, ac mae aelod o'r adran hefyd yn ymchwilio i'r llosgiadau sy'n cael eu hachosi drwy chwarae ar gaeau rygbi 4G.