Y sêr Cymreig ym myd chwaraeon America

  • Cyhoeddwyd
Washington capitalsFfynhonnell y llun, Joe Sargent

Mae pêl-droed Americanaidd, pêl fas, pêl-fasged a hoci iâ yn cael eu gweld fel y chwaraeon nodweddiadol yng Ngogledd America.

Ac wrth i gynghrair genedlaethol y Major League Soccer ehangu, mae pêl-droed hefyd yn dod fwyfwy poblogaidd yno.

Ond pwy o Gymru sydd wedi croesi'r Iwerydd a llwyddo yn y campau yma draw yn America a Chanada?

Hoci iâ

Ymunodd Nathan Walker â'r Washington Capitals o'r NHL (National Hockey League) y llynedd. Mae'n enwog gan mai ef yw'r Awstraliad cyntaf erioed i chwarae yn yr NHL.

Ond cafodd Walker ei eni yng Nghaerdydd yn 1994, ac roedd yn byw yn y ddinas yn ystod ei flynyddoedd cynnar.

Y Capitals yw pencampwyr yr NHL ar hyn o bryd gan ennill y Stanley Cup yn erbyn Las Vegas Knights yn y rowndiau terfynol yn 2018.

Ffynhonnell y llun, Dave Sandford
Disgrifiad o’r llun,

Nathan Walker gyda'r Stanley Cup ym Mehefin 2018

Cafodd Wilf Cude ei eni yn Y Barri, ddechrau'r 1900au. Pan oedd yn blentyn fe benderfynodd ei rieni symud i Winnipeg yng Nghanada i chwilio am waith. Roedd Cude yn athletwr da iawn ac yn chwaraewr pêl-droed medrus. Ond trodd at hoci iâ tra oedd yn Winnipeg a chwaraeodd yn yr NHL dros y Philadelphia Quakers yn 1930-31.

Golgeidwad oedd Cude, ac aeth 'mlaen i chwarae dros rai o dimau hoci iâ mwya'r byd; y Boston Bruins, Chicago Black Hawks, Detroit Red Wings a'r Montreal Canadiens. Rhoddodd y gorau i chwarae yn 1941 cyn mynd 'mlaen i hyfforddi a gweithio fel sgowt. Bu farw o ganser yn 1968.

Daeth Jack Evans o Garnant, Sir Gâr, a phan symudodd ei deulu i Drumheller yn nhalaith Alberta, Canada, ychydig iawn o Saesneg oedd ganddo. Chwaraeodd dros ddau o fawrion yr NHL, y New York Rangers a'r Chicago Black Hawks. Fe wnaeth ymddeol o chwarae yn 1972 yn 44 oed. Bu farw yn Manchester, Connecticut yn 1996.

Un arall a oedd yn chwarae i'r Chicago Blackhawks oedd Cy Thomas o Ddowlais. Yn 1948 fe symudodd i chwarae dros y Toronto Maple Leafs, cyn ymddeol yn 1952. Bu farw Thomas yn 2009.

Pêl fas

Ffynhonnell y llun, Chicago History Museum
Disgrifiad o’r llun,

Jimmy Austin yn chwarae dros y New York Highlanders yn South Side Park, Chicago, Illinois.

Symudodd Jimmy Austin o Abertawe i'r Unol Daleithiau yn 1887 pan oedd yn wyth oed. Yn 1909 ymunodd â thîm MLB (Major League Baseball) y New York Highlanders, sydd bellach yn cael eu hadnabod fel y New York Yankees, tîm enwoca'r byd.

Un o'r rhesymau pam fod Austin yn adnabyddus yw am ei fod mewn llun eiconig pan wnaeth Ty Cobb lithro i mewn arno yn ystod gêm. Cobb yw un o'r enwau mwyaf yn hanes pêl fas, ac roedd yn enwog am lithro fewn ar chwaraewyr gyda'i draed yn uchel er mwyn achosi anaf i'r gwrthwynebwyr, yn ôl rhai.

Bu farw Austin yn Laguna Beach, California, yn 1965.

Ffynhonnell y llun, Sporting News/Charles M. Conlon
Disgrifiad o’r llun,

Y llun eiconig o 1909 sy'n dangos Ty Cobb o'r Detroit Tigers yn llithro fewn ar Austin, a achosodd i'r Cymro hedfan dwy'r awyr

Dau Gymro arall a chwaraeodd yn yr MLB oedd Edward M Lewis o Fachynlleth a Peter Morris o Ruddlan.

Chwaraeodd 'Ted' Lewis dros y Boston Beaneaters (1896-1900) a'r Boston Americans (1901), cyn mynd ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus yn y byd academaidd ym Mhrifysgol Colombia, Efrog Newydd.

Un gêm yn unig a gafodd Peter Morris yn yr MLB, ac roedd hynny gyda'r Washington Nationals ym mis Mai 1884. Bu farw ym mis Rhagfyr 1884 yn 30 oed mewn damwain ar gledrau trên yn Wisconsin.

Pêl-droed Americanaidd

Ganwyd Jon Norris yng Nghymru yn 1962 ac roedd yng ngharfan y New England Patriots yn 1985 yn y safle defensive end ac yna'n defensive tackle gyda'r Chicago Bears yn 1987.

Ond mae'n debyg mai fel hyfforddwr yr oedd fwyaf llwyddiannus drwy fod yn Brif Hyfforddwr gyda Oklahoma Panhandle State University.

Ffynhonnell y llun, youtube
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Norris ei eni yng Nghymru ond ei fagu yn Stratford, Connecticut

Roedd Terry Price o'r Hendy, Sir Gâr, yn ddyn amryddawn. Cafodd wyth cap dros dîm rygbi Cymru ac roedd yn rhan o garfan Y Llewod a deithiodd i Awstralia a Seland Newydd yn 1966. Aeth ymlaen i chwarae rygbi'r gynghrair gan gynrychioli Bradford Northern, Cymru a Phrydain.

Roedd yn giciwr arbennig ac wedi i'w yrfa rygbi ddod i ben, ag yntau dim ond 26 oed, aeth i'r Unol Daleithiau i drio ennill lle fel ciciwr yng ngharfan y Buffalo Bills yn yr NFL (National Football League). Roedd gyda'r garfan am gyfnod ond ni chafodd gytundeb llawn. Bu farw mewn damwain ffordd yn 1993 yn 47 mlwydd oed.

Cafodd Allan Watson ei eni yn y Coed Duon yn 1944. Yn 1970 chwaraeodd bedair gwaith dros y Pittsburgh Steelers ac fel Price, ciciwr oedd Watson.

Pêl-fasged

Mae Steve Nash yn cael ei gydnabod gan lawer fel un o'r chwaraewyr pêl-fasged gorau erioed, gan chwarae am 18 mlynedd yn yr NBA (National Basketball Association), prif adran y gamp. Cafodd Nash ei eni yn Ne Affrica, ond yn fab i ddynes o Abertawe, mae Nash yn falch iawn o'i gefndir Cymreig.

Yn ôl y sôn mae ei gyfoeth yn $75-80m ac mae'n ffrindiau gyda sêr Hollywood a rhai o fawrion y byd cerddoriaeth. Enillodd y tlws MVP (Most Valuable Player), sy'n cael ei roi i chwaraewr gorau'r gynghrair, ddwywaith (2005 a 2006), cyn iddo ymddeol yn 2015.

Ffynhonnell y llun, Christian Petersen
Disgrifiad o’r llun,

Yn ystod ei yrfa fe chwaraeodd Nash dros y Phoenix Suns, Dallas Mavericks a'r Los Angeles Lakers

Pêl-droed

Cymro o Gaersws, Phil Woosnam, sy'n cael llawer o'r clod am sefydlu strwythurau pêl-droed yn yr Unol Daleithiau - sydd wedi arwain at yr hyn y gwelwn ni yn yr MLS (Major League Soccer) heddiw.

Roedd Woosman yn chwaraewr medrus, gan chwarae i West Ham ac Aston Villa ac ennill 17 cap dros Gymru. Ond symudodd i'r Unol Daleithiau yn 1966 gan fynd ymlaen i hyfforddi'r tîm cenedlaethol yno a dod yn un o'r gweinyddwyr pwysicaf a ddaeth â Chwpan y Byd i America yn 1994.

Jess Fishlock sydd â'r mwyaf o gapiau dros dîm pêl-droed merched Cymru ac mae hi wedi ennill llu o wobrau yn Lloegr, Yr Iseldiroedd ac yn Awstralia. Yn 2013 fe arwyddodd Fishlock dros Seattle Reign FC, lle mae hi'n parhau, er ei bod wedi cael cyfnodau ar fenthyg gyda Glasgow City, Melbourne Victory, FFC Frankfurt ac Olympique Lyonnais.

Ffynhonnell y llun, Craig Mitchelldyer
Disgrifiad o’r llun,

Jess Fishlock yw chwaraewr mwyaf llwyddiannus tîm pêl-droed merched Cymru

Cafodd y chwaraewr ganol cae, Andy Dorman dri chap dros Gymru yn 2010-11. Ond rhwng 2004 a 2007 chwaraeodd dros New England Revolution yn Foxborough, ger Boston.

Wedi cyfnod o chwarae dros St Mirren, Crystal Palace a Bristol Rovers aeth Dorman yn ôl i New England Revolution yn 2013 i chwarae am ddwy flynedd. Gorffennodd Dorman ei yrfa yn 2018 gyda FC Boston ym mhedwaredd haen pêl-droed yn UDA.

Chwaraeodd Robert Earnshaw dros Toronto FC, Chicago Fire a Vancouver Whitecaps FC tua diwedd ei yrfa. Cafodd 59 cap dros Gymru a 16 gôl rhwng 2002 a 2012.

Ffynhonnell y llun, Carlos Osorio
Disgrifiad o’r llun,

Rob Earnshaw'n chwarae dros Toronto FC yn erbyn Houston Dynamo, Ebrill 2013

Un arall a orffennodd ei yrfa yn yr MLS oedd Carl Robinson, y cyn-chwaraewr canol cae o Landrindod. Chwaraeodd Robinson dros Toronto FC rhwng 2007 a 2010, ac yna New York Red Bulls 2010 a 2011. Roedd hefyd yn rheolwr ar y Vancouver Whitecaps rhwng 2013 a 2018.

Un chwaraewr rhyngwladol o Gymru sydd yn chwarae yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd yw Adam Henley. Arwyddodd yr amddiffynnwr gyda Real Salt Lake y llynedd.

Hefyd o ddiddordeb: