Plac i Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
Megan Lloyd GeorgeFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd plac i goffáu Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Cymru yn cael ei ddadorchuddio yng Ngwynedd ddydd Gwener.

Cafodd Megan Lloyd George ei hethol fel AS y Blaid Ryddfrydol ar gyfer Sir Fôn yn 1929 pan oedd hi'n 27 oed.

Daeth hi'n arweinydd blaenllaw ar gyfer hawliau merched a Chymru yn ystod ei hoes.

Roedd hi'n ferch i David Lloyd George, prif weinidog y DU rhwng 1916 ac 1922.

Cyfraniad menywod

Mae'r plac yn rhan o ymgyrch i gydnabod cyfraniad menywod nodedig yng Nghymru, ac wedi'i osod ym Mryn Awelon, Cricieth lle y treuliodd amser yn blentyn.

Cafodd Megan Lloyd George ei geni yn 1902 ac fe dreuliodd ei blynyddoedd cynnar yn rhif 10 ac 11 Downing Street.

Elizabeth George, aelod o'r teulu, fydd yn dadorchuddio'r plac porffor.

"Er bod Megan wedi ei magu yn Downing Street wedi ei hamgylchynu gan wleidyddion blaenllaw a phwysigion y dydd, Bryn Awelon oedd ei chartref a lle'r oedd hi'n gwasanaethu'r cyngor lleol," meddai.

"Ei chymydog drws nesaf oedd ei ffrind gorau mynwesol."

Ffynhonnell y llun, Toronto Star Archives
Disgrifiad o’r llun,

Fe wynebodd Megan Lloyd George sawl rhagfarn yn ystod ei gyrfa wleidyddol am ei bod yn ferch

Daeth Megan yn aelod o Orsedd y Beirdd yn 1935 ac yn Llywydd yr ymgyrch i gael Senedd i Gymru yn ystod y 50au cynnar.

Er iddi ddod yn ddirprwy arweinydd y Rhyddfrydwyr am gyfnod byr roedd hi'n anhapus o fewn y blaid ac yn 1951 collodd ei sedd i Cledwyn Hughes.

Y gred adeg hynny oedd bod ei gyrfa wleidyddol ar ben.

Penderfynodd ymuno â'r Blaid Lafur ac yn 1957 daeth hi'n AS am yr ail waith - y tro yma ar gyfer Caerfyrddin - yn dilyn isetholiad.

Mentor i eraill

Fe barhaodd yn Aelod Seneddol nes ei marwolaeth o ganser ar y fron yn 1966.

Ymhlith yr ymgyrchoedd yn ymwneud â hawliau menywod y gwnaeth hi ganolbwyntio arnynt yn ystod ei gyrfa oedd cyflog cyfartal a rhagfarnau cudd tuag at fenywod.

Y Farwnes Eluned Morgan AC wnaeth enwebu Megan Lloyd George ar gyfer y plac.

Dywedodd ei bod wedi "arwain y ffordd ar gyfer menywod mewn gwleidyddiaeth gan ddod yn fentor i ASau benywaidd o'r holl bleidiau".