Cyhoeddi carfan merched Cymru i wynebu Gogledd Iwerddon
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru, Jayne Ludlow wedi cyhoeddi ei charfan i wynebu Gogledd Iwerddon yng ngêm ragbrofol pencampwriaeth Euro 2021 fis nesaf.
Bydd Cymru'n wynebu Gogledd Iwerddon ar nos Fawrth 12 Tachwedd yn Seaview, Belfast.
Mae Sophie Ingle yn ôl yn y garfan ar ôl i'r capten golli'r fuddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Belarws oherwydd anaf.
Ni fydd y chwaraewr canol cae Natasha Harding ar gael ar gyfer y gêm yn Belfast ar ôl cael ei hanafu wrth chwarae i'w chlwb, Reading.
Bydd y chwaraewr canol cae Chloe Williams a'r ymosodwr Maria Francis-Jones yn gobeithio ennill eu capiau cyntaf mis nesaf ar ôl cynrychioli Cymru ym mhob categori oedran.
Yn y gêm gyntaf rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon yng Nghasnewydd roedd gôl munud olaf yn ddigon i'r ymwelwyr ennill pwynt wrth i'r gêm gorffen 2-2.
Mae Cymru yn ail yn y grŵp gyda dwy fuddugoliaeth ac un gêm gyfartal ond mae gan Ogledd Iwerddon gêm wrth gefn.
Carfan Cymru: Laura O'Sullivan, Claire Skinner, Olivia Clark , Sophie Ingle, Hayley Ladd,Loren Dykes, Gemma Evans, Nadia Lawrence, Rhiannon Roberts, Anna Filbey, Angharad James, Elise Hughes, Rachel Rowe, Megan Wynne, Helen Ward, Kayleigh Green, Josie Green, Georgia Walters, Kylie Nolan, Carrie Jones, Maria Francis-Jones, Chloe Williams.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2019