Tri chynghorydd Caerdydd yn ymddiswyddo o Blaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Plaid CYmru

Mae'r tri o gynghorwyr Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd wedi ymddiswyddo chwip y blaid ac wedi ffurfio grŵp annibynnol.

Mae Keith Parry, Lisa Ford ac Andrea Gibson wedi cyhuddo'r blaid o fod yn "rhy agos i'r blaid Lafur".

Daw hyn ar ôl i'w cyn-gyd-weithiwr, Neil McEvoy benderfynu na fyddai'n parhau i geisio ailymuno â'r blaid ar ôl iddo gael ei ddiarddel.

Mae Plaid Cymru wedi diolch i'r tri chynghorydd am eu gwaith gan ddweud eu bod yn "dymuno'n dda iddyn nhw yn y dyfodol".

Roedd Mr McEvoy eisiau ailymuno â Phlaid Cymru, ond fe wnaeth gamu'n ôl o'r broses, tra bod un o'i gefnogwyr - Dewi Evans - wedi ceisio dod yn gadeirydd y blaid. Methodd gyda'i ymgais.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil McEvoy ei ddiarddel am ei ymddygiad yn ystod Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn 2017

Fe gafodd Mr McEvoy, sydd bellach yn AC annibynnol ac yn gynghorydd yng Nghaerdydd, ei ddiarddel o Blaid Cymru y llynedd ar ôl cael ei ganfod yn euog o ymddygiad trafferthus honedig yn ystod cynhadledd wanwyn y blaid yn 2017.

Er gwaethaf hyn mae Mr McEvoy wedi bod yn ymgyrchu gyda'r cynghorwyr Plaid Cymru sydd ar ôl ar Gyngor Caerdydd.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y tri chynghorydd eu bod wedi cael eu "mygu gan y blaid ar bob cyfle" a dywedodd mai "fendetâu personol" oedd y peth pwysicaf ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid.

Roedd Ms Gibson wedi cynrychioli Trelái ers yr isetholiad yn gynharach eleni, ac fe fethodd ac ennill lle ar bwyllgor gweithredol cenedlaethol y blaid yn ystod y gynhadledd. Roedd Mr Parry a Ms Ford yn cynrychioli Tyllgoed.

Credir bydd y tri yn parhau i fod yn aelodau o Blaid Cymru, ond nid oedd BBC Cymru yn gallu cadarnhau hyn gyda'r unigolion nos Fercher.