Cyfarwyddwr Castell Aberteifi yn gadael wedi dwy flynedd
- Cyhoeddwyd

Cafodd Jac Owen Davies o Gastellnewydd Emlyn ei benodi i'r swydd ym mis Hydref 2017
Mae cyfarwyddwr Castell Aberteifi wedi gadael ei swydd ar ôl dwy flynedd wrth y llyw.
Mae BBC Cymru yn deall bod Jac Davies wedi gadael ers dechrau mis Hydref, a hynny am resymau personol.
Roedd ei swydd yn cael ei ariannu gan grant Cronfa Treftadaeth y Loteri.
Yn ôl y sefydliad, ei brif orchwyl oedd "diogelu dyfodol cynaladwyedd y castell".
Roedd Mr Davies yn rheolwr gyfarwyddwr ar Glwb Rygbi Skolars yn Llundain a chyn hynny roedd yn Brif Swyddog Gweithredol Canolfan Cymry Llundain.
Pan gafodd ei benodi ym mis Hydref 2017, Mr Davies oedd y trydydd person i lenwi swydd cyfarwyddwr y castell mewn cyfnod o bum mlynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd12 Medi 2017