Prinder dyfarnwyr: 'Dyfodol cynghreiriau yn y fantol'
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd y gallai dyfodol rhai cynghreiriau pêl-droed fod yn y fantol cyn hir oni bai fod y broblem o brinder dyfarnwyr yn cael ei datrys.
Daw'r rhybudd gan ysgrifennydd un cynghrair yn y gogledd, wedi i bob un o'r gemau gael eu gohirio ar ddydd Sadwrn diweddar.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei fod wedi lansio ymgyrch yn ddiweddar er mwyn recriwtio dyfarnwyr.
'Peryg iddyn nhw gael llond bol'
Yn ôl Trefor Jones, ysgrifennydd Cynghrair Dyffryn Clwyd a Chonwy, mae hi'n "broblem sydd angen ei datrys".
"Byddwn i'n hoffi gweld y gymdeithas bêl-droed yn dod i fyny 'efo rhai syniadau i drio gwella'r broblem," meddai.
Bu'n rhaid i'r gynghrair ohirio pob gêm yn y ddwy adran yn gynharach yn y mis oherwydd diffyg dyfarnwyr.
Yn ôl Mr Jones mae'r clybiau yn y cynghreiriau is yn dioddef oherwydd bod clybiau sy'n uwch yn y pyramid weithiau'n mynnu cael dyfarnwr a dau gynorthwyydd, sy'n golygu nad oes dyfarnwyr ar gael ar gyfer gemau eraill.
Mae Mr Jones hefyd yn ysgrifennydd ar Glwb Pêl-droed Bro Cernyw, ac mae'n poeni y gallai'r broblem gael effaith ar glybiau pentref yn gyffredinol yn y pen draw.
"Y cwbl mae'r bechgyn yma eisiau gwneud ydy cael gêm o bêl-droed ar ddydd Sadwrn," meddai.
"Ond os bydd gemau'n cael eu gohirio, mae 'na beryg iddyn nhw gael llond bol ac un ai symud i glybiau eraill neu roi'r gorau i'r gêm yn gyfan gwbl."
Problem sy'n gwaethygu
Dywedodd Bryn Griffiths o Fro Cernyw, sydd wedi bod yn chwarae ers 20 mlynedd, bod y prinder dyfarnwyr wedi gwaethygu.
"Dwi'n meddwl bod nhw'n cael lot o stick, bob gêm dwi'n ei gweld," meddai.
"Mae'n wahanol iawn i rygbi, lle maen nhw'n cael lot mwy o barch."
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod wedi lansio ymgyrch er mwyn ceisio recriwtio rhagor o ddyfarnwyr.
Ychwanegodd eu bod wedi cyflwyno cwrs ar-lein i ddarpar ddyfarnwyr i geisio gwneud y broses o gymhwyso fel dyfarnwr yn fwy hwylus.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2017