Gemau gorau Gatland
- Cyhoeddwyd
A dyna ni. Mae 12 mlynedd o hyfforddi tîm rygbi Cymru wedi dod i ben i Warren Gatland.
Ac am 12 mlynedd.
Pedair tlws Pencampwriaeth Chwe Gwlad. Tri Champ Lawn. Dau ymddangosiad ym mhedwar olaf Cwpan y Byd. Rhif un y byd (am gyfnod, o leiaf).
Y gohebydd rygbi, Cennydd Davies, sy'n hel atgofion am rai o gemau mwyaf cofiadwy Gats wrth y llyw.
Lloegr 19-26 Cymru, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2008
Mae'n rhaid mynd nôl i ble ddechreuodd y cyfan, ac am ddechre i deyrnasiad Warren Gatland!
Wedi llanast Fiji dri mis ynghynt, roedd Gatland yn dechre'i gyfnod â thasg oedd yn ymddangos yn anobeithiol yn Twickenham. Nid ers campau Adrian Hadley yn 1988 oedd y cochion wedi dathlu yn HQ.
Ar ôl dal 'mlaen yn yr hanner cyntaf, ceisiau Lee Byrne a Mike Phillips ysbrydolodd Cymru - neu yn fanwl gywir y Gweilch ynghyd â Martyn Williams a Mark Jones - at fuddugoliaeth gwbwl gampus.
Roedd Warren Gatland wedi cyrraedd.
Cymru 29-12 Ffrainc, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2008
Wedi 'sgubo'r Albanwyr a'r Eidalwyr o'r neilltu a chipio'r Goron Driphlyg wedi brwydr yn Nulyn, roedd y Gamp Lawn eto'n y fantol ar ôl cyflawni hynny dair mlynedd ynghynt.
Ffrainc oedd yr un tîm ar ôl - ond doedd dim yn mynd i darfu ar y parti.
Dewiniaeth Shane Williams a datglodd yr amddiffyn cyn i gais hwyr Martyn Williams roi sêl bendith ar y cyfan. Ar ôl llai na phedwar mis mewn grym, roedd Gatland a'i griw yn dathlu'r Gamp Lawn.
Iwerddon 21-23 Cymru, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2012
Ar ôl baglu yn rownd gynderfynol yr Hydref blaenorol roedd ymgyrch y Chwe Gwlad yn gyfle i ail-gynnau'r fflam a phrofi nad oedd llwyddiant Cwpan y Byd 2011 wedi bod yn eithriad. Taith anodd i Ddulyn oedd yn wynebu'r Cymry i ddechre ond ar y diwrnod, yr ymwelwyr a heriodd y Gwyddelod o'r cychwyn cyntaf.
Roedd George North (a oedd dal yn ei arddegau) yn gawr, a'r tîm cartref methu ymdopi â'i bresenoldeb. Er gwaetha' cais hwyr yr asgellwr a dwbwl Jonathan Davies, roedd y tîm oddi cartre' dal ar ei hôl hi ag eiliadau'n weddill.
Cic gosb Leigh Halfpenny oedd y gwahaniaeth yn y pen draw a'r weithred honno'n sail i Gipio Camp Lawn arall.
Lloegr 25-28 Cymru, Cwpan y Byd Lloegr, 2015
Ar y llwyfan mwyaf, dyma oedd buddugoliaeth bwysicaf a mwyaf dramatig Warren Gatland.
Mewn grŵp yn cynnwys Awstralia a Lloegr, roedd rhywun yn mynd i faglu ar y cymal cyntaf. Doedd dim disgwyl i Gymru darfu ar barti Lloegr mewn Cwpan y Byd ar eu tomen ei hunen ac am y mwyafrif doedd dim peryg o hynny'n digwydd.
Yn byw ar friwsion ac anafiadau'n rhemp, trodd y cyfan ar gais Gareth Davies ac ynghyd â chicio metronomic rhyfeddol Dan Biggar, rhywsut dyma Cymru'n goroesi.
Roedd Lloegr, ar y llaw arall, ar eu ffordd mas!
Awstralia 25-29 Cymru, Cwpan y Byd Japan, 2019
Yr un cwestiwn a gododd yng nghyfnod Gatland oedd methiant y tîm i lorio cewri hemisffer y de yn gyson.
Cyn y gêm yn Tokyo dim ond dwywaith mewn pymtheg gêm oedd Cymru wedi curo'r Crysau Aur.
Roedd canlyniad positif yn y Dwyrain Pell yn golygu llwybr llawer haws. Daeth y cochion mas fel miligwn a cheise Davies a Parkes ddim llai na hanner gwych o rygbi.
Does dim byd yn hawdd wrth gefnogi Cymru, wrth i'r Wallabies ddod nôl o fewn sgôr.
Ond doedd hi ddim yn ddigon, wrth i Gymru guro Awstralia mewn Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1987.
Hefyd o ddiddordeb: