Dymchwel achos: 'Annhebygol' bod aelodau ddim yn gwybod

  • Cyhoeddwyd
Ross England
Disgrifiad o’r llun,

Ross England yn siarad yng nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn 2016

Mae cyn-ymgeisydd seneddol Ceidwadol wedi dweud ei fod yn "annhebygol iawn" bod aelodau blaenllaw o'r blaid ddim yn ymwybodol o rôl Ross England mewn achos llys gafodd ei ddymchwel.

Dywedodd Luke Evett, sydd bellach ddim yn aelod o'r Blaid Geidwadol: "O fy mhrofiad i o reolaeth y blaid, dwi'n meddwl ei fod yn annhebygol iawn nad oedd y triumvirate o Byron [Davies], Craig [Williams] ac Alun [Cairns] yn gwybod am weithredoedd Ross."

Ychwanegodd: "Os nad oedden nhw [yn gwybod], yna maen nhw'n anghymwys. Os oedden nhw'n gwybod, rhaid derbyn y canlyniadau."

Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Byron Davies, Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig a Craig Williams, cyn-AS Ceidwadol, wedi gwadu gwybod unrhyw beth am y modd y gwnaeth yr achos treisio ddymchwel.

'Cwbl anymwybodol'

Cafodd Mr England ei wahardd o'r blaid ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod achos llys treisio wedi dymchwel yn dilyn honiadau y gwnaeth am y dioddefwr.

Dywedodd y barnwr yn yr achos bod Mr England "yn fwriadol ac ar ben eich hun" wedi dymchwel yr achos.

Roedd y dioddefwr yn gyn-aelod staff o swyddfa etholaethol Alun Cairns.

Cafwyd y diffynnydd, James Hackett, yn euog yn dilyn ail achos.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r BBC wedi cael gwybod bod Mr England yn rheolwr ymgyrch i Mr Cairns (uchod) nes ei waharddiad

Mae ffynonellau pellach wedi dweud wrth BBC Cymru bod Mr Cairns wedi cael gwybod am yr hyn ddigwyddodd yn yr achos llys cyn i Mr England gael ei ddewis fel ymgeisydd.

Mae Mr Evett, wnaeth ymgeisio yng Ngheredigion, wedi dweud bod y "niwed i enw da'r blaid, ar yr amser gwaethaf posib, yn arwyddocaol".

Ddydd Iau, tridiau wedi i'r BBC adrodd y stori, dywedodd Mr Davies y gallai ddweud "yn bendant" ei fod ef a Mr Cairns yn "gwbl anymwybodol o fanylion yr achos nes iddynt ddod yn gyhoeddus yr wythnos hon".

Ar raglen Wales Live ddydd Mercher, dywedodd Mr Williams, sydd wedi gweithio ym mhencadlys y Ceidwadwyr, nad oedd yn gwybod am yr achos nes i'r stori gael ei hadrodd yn y wasg.

Pamffledi etholiad

Mae'r BBC hefyd wedi cael gwybod bod Mr England yn rheolwr ymgyrch i Mr Cairns nes iddo gael ei wahardd yr wythnos hon.

Cafodd pamffledi yn hyrwyddo Mr Cairns, oedd ag enw Mr England arnyn nhw, eu dosbarthu i gartrefi ym Mro Morgannwg ddydd Iau.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig: "Cafodd y pamffledi eu printio a'u cynhyrchu cyn i fanylion yr achos ddod i'r amlwg.

"Mae'r pamffledi bellach wedi eu tynnu'n ôl."