Galw am ehangu cynllun diagnosis canser i'r gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw am sefydlu canolfan yng ngogledd Cymru sy'n gallu rhoi diagnosis cyflym o ganser.
Mae dwy uned yn ne Cymru ar agor ers dros ddwy flynedd fel rhan o gynllun i dreialu'r syniad o ganolfannau diagnosis cyflym.
Mae pobl yn gallu cael profion yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg a derbyn y canlyniadau'r un diwrnod.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod disgwyl i fyrddau iechyd ystyried cynnig gwasanaeth tebyg dros y misoedd nesaf.
'Gwahaniaeth rhwng byw a marw'
Un sy'n galw am wasanaeth tebyg i ogledd Cymru ydy gweddw'r ymgyrchydd canser Irfon Williams.
Bu farw Irfon ddwy flynedd yn ôl yn dilyn brwydr â chanser y coluddyn.
Dywedodd Becky Williams y byddai diagnosis cynnar hefyd yn lleddfu'r pwysau ar adrannau eraill o'r gwasanaeth iechyd.
"Yn anffodus mae lot o bobl sy'n cael y diagnosis yn mynd trwy A&E oherwydd eu bod nhw'n sâl iawn, ac mae hynny'n rhoi pwysau ar y gwasanaeth A&E hefyd.
"'Da ni angen yr hwb yma i helpu pobl gael y diagnosis yn gynnar a dechrau triniaeth.
"Mae 'na hwb fel hyn yn y de - 'da ni angen chwarae teg yma yn y gogledd hefyd.
"Yn syml, dyma'r gwahaniaeth rhwng byw a marw."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Helen Mary Jones bod y gwahaniaeth amser mewn cael diagnosis yn ei gwneud yn allweddol bod gwasanaeth o'r fath ar gael i gleifion y gogledd hefyd.
"Lle mae gyda chi wasanaethau arbenigol sy ddim ond yn canolbwyntio ar ddiagnosis mae'n cymryd rhyw chwe diwrnod ar gyfartaledd rhwng cael eich cyfeirio at y gwasanaeth a ffeindio mas os oes gennych chi ganser ai peidio," meddai.
"Mewn gwasanaethau eraill mae'n gallu bod hyd at 84 diwrnod.
"Mae hynny'n gwneud lot fawr o wahaniaeth, yn enwedig gyda mathau o ganser sy'n tyfu'n gyflym."
'Gadael hi'n rhy hir'
Ond dywedodd Richard Pugh o elusen Macmillan bod angen blaenoriaethu materion eraill, fel sicrhau bod pobl ddim yn ei gadael hi'n rhy hwyr cyn mynd at feddyg gyda'u pryderon.
"Yng Nghymru mae gennym ni'r broblem bod pobl yn ei gadael hi'n rhy hir cyn mynd at eu GPs," meddai.
"Y peth cyntaf sydd angen yw cael sgwrs i daclo'r broblem yna, wedyn, os ni'n gweld bod y canolfannau yma'n gwneud gwaith da, edrych ar ble arall i'w rhoi nhw.
"Ond gyntaf, mae pobl yn gorfod mynd i weld eu meddyg."
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw wedi ariannu dwy ganolfan ddiagnostig gyflym fel cynllun peilot er mwyn darganfod a ydy hyn yn ffordd effeithiol i adnabod canser lle nad ydy'r symptomau yn gwbl amlwg.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ynghyd â byrddau iechyd eraill, wedi cael cyllid Llwybr Canser Sengl eleni er mwyn rhoi profion syml ar gyfer achosion lle mae meddygon yn amau bod gan berson ganser.
Mae disgwyl i'r cynlluniau yn ne Cymru gael eu gwerthuso dros yr wythnosau nesaf cyn cael eu hystyried gan fyrddau iechyd eraill maes o law.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2019
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2019