'Angen denu pobl o gefndiroedd gwahanol i'r gyfraith'
- Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas y Gyfraith yng Nghymru yn galw am wneud mwy er mwyn denu pobl o gefndiroedd llai traddodiadol i gamu i fyd y gyfraith.
Dywedodd y gymdeithas bod newid wedi bod dros y blynyddoedd, ond bod lle mawr i wella er hynny.
Yn Llundain mae 'na waith eisoes yn cael ei wneud i ddenu pobl o gefndiroedd llai traddodiadol i fyd y gyfraith - rheiny o gefndiroedd difreintiedig, lleiafrifoedd ethnig, cymunedau LHDT+ a phobl anabl.
Ond er y cynnydd yno, mae 'na le mawr i wella yng Nghymru, yn ôl Cymdeithas y Gyfraith yng Nghymru.
'Cost aruthrol'
Dywedodd Dr Nerys Llewelyn Jones, aelod o'r comisiwn diweddar ar gyfiawnder yng Nghymru: "Mae 'na amrywiaeth eithaf da o ran menywod a dynion, ond fi'n credu bod mwy o waith i'w wneud o ran cefndiroedd ethnig gwahanol a chefndiroedd llai breintiedig.
"Mae'n faes anodd efallai i ddod mewn iddo fe - mae 'na gost aruthrol hefyd i hyfforddi i fod yn gyfreithiwr.
"Fi'n credu bod yr amcangyfrifon diwethaf yn dweud ei fod tua £70,000 erbyn mynd trwy radd yn y gyfraith a gwneud yr hyfforddiant sydd angen arnoch chi fel gradd uwch a hyfforddi mewn practis.
"Mae hynny'n gost ofnadwy o uchel i rywun edrych arno fel dyled yn dechrau gyrfa."

Dywedodd Dr Nerys Llewelyn Jones bod y gost yn atal nifer rhag mynd i fyd y gyfraith
Mae cwmni Aspiring Solicitors yn gweithio i helpu pobl o'r cefndiroedd yma i ymuno â'r maes.
Dywedodd Harri Davies o'r cwmni: "I raddau o'dd pobl o'dd yn y gyfraith yn barod yn hyfforddi pobl sy'n debyg iddyn nhw - dyna oedd o ffordd o wneud pethau."
Ychwanegodd bod y cwmni wedi "llwyddo i helpu gyda'r broblem yna" gan roi cymorth a hyfforddiant am ddim i fyfyrwyr o amgylch y wlad i'w hannog i'r maes.

Dywedodd Harri Davies mai diffyg amrywiaeth "oedd o ffordd o wneud pethau" yn y gorffennol
Mae 'na Gymru wedi elwa o gymorth y cwmni hefyd, gan gynnwys Cail Wyn Evans o Ddinbych.
"Nes i wneud yn reit wael yn Lefel A, ond pan es i i'r brifysgol nes i sylweddoli bod angen i fi weithio'n galed i gael gyrfa yn y gyfraith," meddai.
"O'n i'n gwybod, oherwydd y canlyniadau Lefel A, ei bod hi'n anodd i fi gael lle yn Llundain, felly nes i droi at Aspiring Solicitors."
Ef yw'r person cyntaf yn ei deulu i fynd i brifysgol, ac mae bellach wedi sicrhau cytundeb hyfforddi gyda chwmni Mayer Brown.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2015