Plwmsan, Hollywood a'r slepjan berffaith

  • Cyhoeddwyd
Syr Wynff a PlwmsanFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Syr Wynff a Plwmsan

Syr Wynff a Plwmsan - dau wyneb cyfarwydd i blant Cymru yn yr 80au wrth i ni diwnio mewn bob wythnos i weld pa helynt oedden nhw'n ei achosi yn Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan.

A nawr, mae cyfle i chi ail-fyw eich plentyndod drwy wylio penodau o'r gyfres gwlt ar S4C Clic, ynghyd â nifer o bocs-sets o gyfresi eraill., dolen allanol

Mici Plwm, oedd yn actio Plwmsan, y 'twmffat twpach na thwp', sydd wedi bod yn rhannu rhai o gyfrinachau'r gyfres ar bodlediad S4C Clic o'r Archif, dolen allanol.

Sut dechreuodd pethau...

"O'n i'n 'nabod Wynff (Wynfford Ellis Owen), ond erioed 'di gweithio efo fo. O'dd Theatr Gwynedd yn g'neud eu pantomeim blynyddol, ac o'dd o yn y cyfnod o'dd Wynff yn actio Ffêri Nyff, yn ei sgidiau cryfion a lipstic mawr. O'n i yn y pantomeim, a mi glicion ni.

"O'dd Wynff yn mynd o'r pantomeim yn ôl i'r BBC i 'neud Teliffant, yr adeg hynny. A chwara teg iddo (dwi byth 'di madda' iddo fo) dyma fo'n deud wrth y BBC 'gwrandwch, dwi'm isho gneud dim mwy, oni bai mod i'n cael dod â Mici Plwm efo fi!'

"Yr adeg honno o'dd cast o bedwar ohonon ni - Syr Wynff, Plwmsan, Olwen Rees a Myfanwy Talog.

Disgrifiad o’r llun,

Teliffant yn 1977 - gydag Olwen Rees, Wynford Elis Owen, Myfanwy Talog a Mici Plwm

"O'dd Myfanwy Talog yn canlyn yr actor Syr David Jason. O'dd o'n dod i wylio ni ar fore dydd Sadwrn pan oeddan ni yn stiwdio'r BBC yng Nghaerdydd.

"Beth aeth David Jason ymlaen i'w wneud wedyn? Only Fools and Horses. A dyna chi, ylwch - yr un bach a'r un tal - yr union r'un peth 'de?!

"O'dd Teliffant yn beth BBC, ac mi ddaethon nhw â'r peth i ben. O'dd Wynff a fi yn meddwl bechod fod Syr Wynff a Plwmsan, y ddau gymeriad [yn diflannu]. Mi ddo'th S4C, yn eu doethineb, ac Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan oedd o wedyn."

Paratoi'n ofalus?

"O'dd 'na nifer o bobl yn rhyfeddu, yn gofyn 'sut 'dach chi'n gneud y ddeialog i fyny fel 'da chi'n mynd?'"

"A'th Wynff reit stowt, a dweud ''da ni'n cymryd wythnosa i sgwennu un sgript'. Y dull roeddan ni'n 'neud o'dd meddwl am y stori a wedyn fi yn sgwennu i mi, a fo'n sgwennu iddo fo.

Ffynhonnell y llun, S4C

Gweithio efo anifeiliaid

"Un tro o'dd y person o'dd yn edrych ar ôl y props fod i ddod â tsimpansî, a'i wisgo fo yn nillad Plwmsan, a fo o'dd fy mrawd bach i.

"Ond do'dd y boi ddim yn dallt ei natur, a ddaeth o â spidermonkey...

"O'dd o'n hongian ar y drws ac yn cau dod i lawr. Munud o'dd y mwnci yna yn clywad Wynff yn mynd 'AAA', o'dd y mwnci yn mynd yn bananas!

"O'dd o'n neidio fyny, ac a'th o fyny i'r goleuadau. O'ddan ni'n taflu bananas a thrio'i gael o lawr... Peidiwch â gweithio efo anifeiliaid a phlant, 'de!"

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mici'n rhannu ei atgofion ar y podlediad Clic o'r Archif gyda'r cyflwynwyr Miriam Isaac a Iestyn Arwel

Enwogrwydd ledled y byd

"Pa actorion yng Nghymru sy' 'di gweithio yn Universal Studios, Los Angeles? Wynff a fi! O'dd o'n rhyw gyd-gynhyrchiad efo sianel deledu i blant yn yr Almaen.

"Hedfan drosodd i fan'no, ac aros mewn gwesty ar Hollywood Boulevard a bob bora, o'dd y Rolls Royce anferth gwyn 'ma'n tynnu fyny tu allan a'r dyn 'ma mewn siwt chauffer gwyn neis a chap pig yn gwitshad amdanon ni.

"Ac oddan ni'n dod mewn fatha Syr Wynff a Plwmsan, ac wrth gwrs yn godro'r peth 'de... 'Helo byd! Helo Hollywood!' Neb yn cymryd sylw - ma' pawb mor wirion yna!"

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Slepjan!

Sicrhau'r slepjan berffaith

"Y broblem fawr oedd sut i gael y slepjan yn iawn, achos yn y dechra', o'ddan ni'n defnyddio plât papur, efo foam shafio. Ond ar ôl cael rhyw dri neu bedwar o'dd fy llygaid i'n llosgi i gyd.

"Wedyn dyma nhw'n d'eud 'w 'nawn ni ddefnyddio cwstard, 'neith hwnna weithio'n arbennig o dda. Ond be' o'dd yn digwydd, os fasa ni'n ffilmio o dan oleuadau stiwdio, o'dd y gwres yn g'neud i'r llefrith ynddo fo suro. O'dd 'na ogla i godi cyfog arnon ni.

"Cymysgu tatws powdr â'r mymryn lleia o liw bwyd melyn, ac o'dd hwnnw i'r dim."

A dyna chi yn gwybod un o gyfrinachau mawr teledu Cymru dros y degawdau diwethaf! Tra chwcs!

Hefyd o ddiddordeb: