Etholiad 2019: Canllaw geirfa allweddol

  • Cyhoeddwyd
Hmmm?

Mae etholiad cyffredinol ar y gorwel, ac yn barod mae sôn am glymbleidio, maniffestos a phleidleisio tactegol ym mhobman.

Ond beth ydy ystyr y pethau yma mewn gwirionedd?

Defnyddiwch ein canllaw i eirfa allweddol yr etholiad i'ch helpu.

Pleidlais

Gall pleidlais olygu dau beth: Unrhyw bleidlais sy'n cael ei chynnal yn ddirgel, fel etholiad; neu mae'n cael ei ddefnyddio fel term byrrach ar gyfer y papur pleidleisio ei hun.

Blwch pleidleisio

Blwch sydd wedi'i selio â hollt yn y caead. Mae pleidleiswyr yn gosod eu papurau pleidleisio sydd wedi'u llenwi drwy'r hollt.

Pan fydd y pleidleisio'n cau, mae'r blychau'n cael eu cludo i leoliad y cyfrif, lle mae'r pleidleisiau'n cael eu cyfrif.

Papur pleidleisio

Papur sy'n cynnwys rhestr o'r holl ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholaeth. Mae pleidleiswyr yn marcio eu dewis gyda chroes.

Enwebiadau'n cau

Dyma'r dyddiad cau i ymgeiswyr anfon ffurflenni swyddogol, sef y papurau enwebu, yn cadarnhau eu bod yn sefyll yn yr etholiad.

Gan amlaf, mae hyn 19 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad.

Clymblaid

Pan fydd dwy blaid neu fwy yn ffurfio llywodraeth gyda'i gilydd oherwydd nad oes gan yr un blaid fwyafrif y seddi yn y Senedd.

Ar ôl etholiad 2010, ffurfiodd y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol glymblaid wnaeth barhau am bum mlynedd.

Datganiad

Cyhoeddi canlyniad yr etholiad ym mhob etholaeth ar noson yr etholiad.

Blaendal

Rhaid i bob ymgeisydd dalu blaendal o £500 i sefyll yn yr etholiad. Mae'r pleidiau neu'r ymgeisydd eu hunain yn talu'r arian ac maen nhw'n ei gael yn ôl os ydyn nhw'n ennill 5% neu fwy o'r pleidleisiau.

Senedd ddatganoledig

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd Yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon yn cael eu hethol gan bleidleiswyr yn y cenhedloedd hynny o'r DU.

Maen nhw'n deddfu ar bethau sy'n cael eu rheoli gan y cenhedloedd hynny fel ysgolion, ysbytai a'r amgylchedd.

Diwrnod yr etholiad

Y diwrnod pan all pawb sy'n gymwys fynd i orsaf bleidleisio i fwrw eu pleidlais. Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 07:00 a 22:00.

Tra bod y pleidleisio'n digwydd, mae rheolau llym ar yr hyn y gall y cyfryngau sôn amdano ac ni ddylai ymgyrchwyr lleol ymgyrchu gerllaw'r gorsafoedd pleidleisio.

Noson yr etholiad

Yr amser ar ôl i'r pleidleisio orffen am 22:00 a'r broses o gyfrif y pleidleisiau ddechrau.

Mae'r arolwg barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio yn cael ei ddarlledu am 22:00 ar ei ben ac mae'n darogan beth yw canlyniad yr etholiad. Mae'r canlyniadau cyntaf fel arfer yn cyrraedd toc cyn 23:00.

Arolwg barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio

Arolwg lle gofynnir i bleidleiswyr sy'n gadael gorsaf bleidleisio sut y gwnaethant bleidleisio.

Mae'r canlyniadau'n cael eu dadansoddi a'u defnyddio i ddarogan canlyniad cyffredinol yr etholiad.

Ar noson yr etholiad, mae'r arolwg barn yn cael ei ddarlledu yn syth ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau am 22:00.

System cyntaf i'r felin

Term sy'n disgrifio'r ffordd y mae llywodraethau'n cael eu hethol yn y DU.

Mae pleidleiswyr yn pleidleisio dros un ymgeisydd lleol a phwy bynnag sy'n derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n ennill ac yn dod yn AS dros yr ardal honno.

Mae'r blaid sydd â'r nifer fwyaf o ymgeiswyr buddugol fel arfer yn ffurfio llywodraeth.

Felly dyw cyfanswm nifer y pleidleisiau y mae pleidiau yn eu cael yn genedlaethol ddim yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar bwy sy'n ennill yr etholiad.

Senedd grog

Ar ôl etholiad lle nad oes un blaid yn ennill mwyafrif, mae'n cael ei alw'n Senedd grog.

Fel arfer, mae'r blaid fwyaf wedyn yn ceisio ffurfio partneriaeth â phlaid arall fel llywodraeth glymblaid.

Hystings

Unrhyw gyfarfod lle mae ymgeiswyr yn ceisio perswadio pleidleiswyr i'w cefnogi. Daw'r gair o hen air Llychlynnaidd sy'n golygu "tŷ'r cynulliad".

Llywodraeth fwyafrifol

Pan fydd un blaid yn ennill y rhan fwyaf o'r seddi yn y Senedd, gall lywodraethu ar ei phen ei hun fel llywodraeth fwyafrifol.

Mandad

Mae gwleidyddion yn dweud bod ganddyn nhw fandad, neu awdurdod i gyflawni polisi, pan fydd ganddyn nhw gefnogaeth y pleidleiswyr.

Maniffesto

Yn y bôn llyfryn yw maniffesto sy'n cynnwys holl syniadau a pholisïau'r pleidiau. Gan amlaf, mae maniffestos yn cael eu cyhoeddi yn ystod ymgyrch yr etholiad.

Os yw plaid yn ennill yr etholiad, maen nhw'n aml yn cael eu barnu yn ôl faint o addewidion maniffesto y mae'n nhw wedi llwyddo i'w cyflawni fel llywodraeth.

Llywodraeth leiafrifol

Llywodraeth sydd heb fwyafrif o'r seddi yn y Senedd. Mae'n golygu bod y llywodraeth yn llai tebygol o allu pasio deddfau a gweithredu ei pholisïau oherwydd bod yn rhaid iddi ddibynnu ar gefnogaeth pleidiau eraill.

AS

Mae Aelodau Seneddol (ASau) yn cael eu hethol gan bleidleiswyr i gynrychioli eu buddiannau a'u pryderon yn Nhŷ'r Cyffredin.

Mae un AS i bob etholaeth - sef cyfanswm o 650 dros y DU. Mae 40 yng Nghymru.

Arolwg barn

Mae arolygon barn yn gofyn i bobl pa blaid y byddan nhw'n pleidleisio drosti yn yr etholiad. Mae'r canlyniadau yn cael eu defnyddio i awgrymu faint o'r bleidlais y gallai pob plaid ei chael ledled y wlad.

Ond nid yw cyfran y bleidlais o reidrwydd yn golygu pwy sy'n cael y nifer fwyaf o seddi yn y Senedd. Mae arolygon barn yn cael eu defnyddio hefyd i gael barn ar amrywiaeth o faterion.

Gwrthblaid

Mae'r blaid fwyaf sydd ddim yn llywodraethu yn cael ei galw'n wrthblaid swyddogol.

Ei rôl yw gwrthwynebu'r llywodraeth mewn dadleuon yn y Senedd, er mwyn sicrhau bod y llywodraeth yn gweithredu o fewn ei phwerau.

Weithiau gellir gofyn i arweinydd yr wrthblaid ffurfio llywodraeth newydd - ac felly dod yn brif weinidog - os yw'r llywodraeth bresennol yn colli ei mwyafrif.

Pleidlais drwy'r post

Gall unrhyw un sydd wedi cofrestru i bleidleisio wneud cais am bleidlais drwy'r post cyn yr etholiad.

Mae pleidleisiau post yn arbennig o ddefnyddiol i bobl sydd ddim yn gallu cyrraedd gorsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.

Mae gwybodaeth ar sut i wneud cais am bleidlais drwy'r post ar gael ar-lein.

Ailgyfrif

Os yw canlyniad etholaeth yn agos, gall unrhyw ymgeisydd ofyn i gyfri'r pleidleisiau unwaith eto. Gall y broses hon gael ei hailadrodd sawl gwaith os oes angen nes bod yr ymgeiswyr yn fodlon.

Y swyddog canlyniadau, sy'n gyfrifol am y cyfrif etholiadau, sydd â'r gair olaf ynglyn â ddylid ailgyfrif neu beidio.

Swyddog canlyniadau

Y person sy'n gyfrifol am etholiadau ym mhob etholaeth. Ar noson yr etholiad nhw sy'n darllen y canlyniadau ar gyfer pob ymgeisydd yn nhrefn eu cyfenwau.

Sedd ddiogel

Etholaeth lle mae Aelod Seneddol wedi ennill gyda nifer fawr o bleidleisiau yn yr etholiad blaenorol.

Mae pleidiau eraill yn tueddu i beidio â thargedu eu hadnoddau mewn seddi diogel. Maen nhw'n cael eu hystyried yn seddi lle nad oes modd eu hennill.

Papur pleidleisio a ddifethwyd

Unrhyw bapur pleidleisio sydd heb ei farcio'n glir, er enghraifft os bydd croes wedi'i rhoi mewn mwy nag un blwch neu os bydd rhywun wedi ysgrifennu ar draws y papur pleidleisio.

Mae nifer y papurau pleidleisio a ddifethwyd yn cael eu cofnodi ond nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y canlyniadau.

Gogwydd

Gogwydd sy'n mesur sut mae cefnogaeth pleidleiswyr i bleidiau wedi newid rhwng etholiadau, fel canran.

Mae'n cael ei gyfrif drwy gymharu canran o'r bleidlais a enillwyd mewn etholiad penodol ochr yn ochr â'r ffigwr a gafwyd yn yr etholiad blaenorol.

Pleidleisio tactegol

Ymdrech i gael pleidleiswyr i gefnogi plaid nad ydyn nhw wir yn ei chefnogi mewn ymdrech i drechu plaid arall.

Weithiau mae pleidiau sydd â pholisïau tebyg yn dod i gytundeb i sefyll o'r neilltu i roi gwell cyfle i'r llall ennill, ond gall hynny fod yn ddadleuol.

Sedd darged

Sedd y mae plaid yn ei llygadu oherwydd bod y canlyniad wedi bod yn agos yn y gorffennol.

Y ganran a bleidleisiodd

Y ganran a bleidleisiodd yw'r ganran o bleidleiswyr cymwys sy'n bwrw pleidlais ar ddiwrnod yr etholiad.

Felly os yw wyth o bob 10 o bleidleiwyr cymwys yn bwrw eu pleidlais mewn gwirionedd, y ganran a bleidleisiodd yw 80%.