Olew 'yn llifo fel rhaeadr' ar ei wraig

  • Cyhoeddwyd
Geoffrey BranFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geoffrey Bran yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth

Mae pensiynwr sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei wraig wedi dweud iddo weld olew berwedig yn arllwys fel rhaeadr arni ar ôl iddi gwympo yn ddamweiniol.

Dywedodd Geoffrey Bran, 71 oed, wrth Lys y Goron Abertawe fod ei wraig Mavis, 69 oed, wedi marw o ganlyniad i ddamwain ar 23 Hydref 2018.

Bu farw Mrs Bran yn Ysbyty Treforys o losgiadau chwe diwrnod ar ôl y digwyddiad yn siop sglodion Chipoteria yn Hermon, naw milltir i'r gogledd o Gaerfyrddin.

Clywodd y llys i'r ddau briodi yn 1984 gan ddod yn berchen ar nifer o fusnesau yn y de.

Dywedodd Mr Bran, sy'n gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth, mai ei wraig oedd yr un â phen busnes.

Fe wnaeth Christopher Clee QC, ar ran yr amddiffyn, ofyn iddo ai rheolaeth y busnesau oedd y rheswm y tu cefn i ffraeo rhwng y ddau.

"Fe roedd yna ychydig o ffraeo. Dim byd difrifol," meddai.

'Cadw llygad'

Dywedodd fod ei wraig wedi dechrau yfed a'i bod yn cael "cyfnodau o baranoia" yn ystod y dydd gan ei "feio am bopeth".

Ychwanegodd ei bod hi yn yfed dwy botel a hanner o win coch bob diwrnod.

Clywodd y llys fod Mrs Bran wedi dechrau yfed tua 09:30 ar fore 23 Hydref, a'i bod wedi yfed gwin coch a brandi.

Ffynhonnell y llun, Heno
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mavis Bran chwe diwrnod wedi iddi gael llosgiadau yn y siop sglodion

Yn ôl Mr Bran roedd hi wedi defnyddio peiriant gwahanol i'r arfer i ffrio pysgod. Cafodd y pysgod eu llosgi gyda'i wraig yn ei feio am beidio cadw llygad arnynt, meddai'r diffynnydd.

Ychwanegodd iddi daflu'r pysgod i ddysgl ac "fe wnaeth olew fynd i bobman".

"Roedd hi yn flin gyda'i hunan, neu gyda fi, dwi ddim yn siŵr pa un."

Dywedodd iddo ef barhau gyda'i waith o gael y sglodion yn barod. "Pan ddigwyddais droi rownd fe welais fod Mavis wedi cwympo."

'Llifo mas fel rhaeadr'

Dywedodd fod ei phen wrth ymyl bwrdd oedd yn dal y peiriant ffrio.

"Yna o gornel fy llygaid fe welais y peiriant ffrio yn symud yn araf, gyda'i goesau blaen yn mynd dros ymyl y bwrdd. Yna fe wnaeth pwysau'r olew olygu fod yr holl beth yn cwympo.

"Unwaith i'r coesau gyrraedd yr ymyl mae'n rhaid bod pwysau olew wedi symud pethau'n gynt, gan lifo mas fel rhaeadr gan lanio ar ei brest."

Dywedodd iddo symud ei wraig a'i dadwisgo oherwydd bod ei dillad yn llawn olew.

Erlyniad yn croesholi

Ychwanegodd nad oedd â'i ffôn symudol gydag ef, ac iddo ddweud wrthi am fynd i'r tŷ a "dweud wrth Gareth i ffonio am ambiwlans".

Roedd Gareth Davies yn ffrind oedd yn byw gyda'r cwpl.

"Roedd hi mewn sioc ond yn gwybod beth oedd yn digwydd."

Wrth gael ei groesholi gan yr erlynydd Paul Lewis QC dywedodd Mr Bran wrth y llys ei fod yn caru Mavis.

Cafodd ei holi pam na aeth i'r tŷ er mwyn cysuro ei wraig o 30 mlynedd ac i roi "cefnogaeth emosiynol iddi gan ei bod mewn poen" pe bai e'n ei charu?

"Galli ddim ateb hynny," meddai.

Gofynnwyd eto a ddylai wedi mynd i'w chysuro. "Dylwn," meddai.

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mavis Bran ei llosgi yn y siop sglodion roedd hi'n ei berchen ger ei chartref Hermon

Holodd yr erlyniad beth wnaeth ef yn hytrach na mynd i'w chysuro. "Fe wnes i lanhau...o ni mewn byd bach arall dwi'n meddwl. O ni wedi colli'r plot."

Fe'i holiwyd a oedd yn glanhau er mwyn gwaredu tystiolaeth. "Dim ond saim oedd yna," atebodd.

Holodd Mr Lewis a oedd y diffynnydd wedi gwneud unrhyw ymdrech i weld ei wraig. "Na. O ni methu wynebu'r peth."

'Fy meio am flynyddoedd'

Fe gafodd ei holi hefyd a oedd yn poeni fod ei wraig am roi'r bai arno ef.

"Mae hi wedi bod yn fy meio am flynyddoedd am bopeth. Un fel yna yw hi."

Mae'r achos yn parhau.