Gwrthdrawiad angheuol A487: Arestio dynes 18 oed

  • Cyhoeddwyd
Damwain A487
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A487 rhwng Aberystwyth a Chommins Coch

Mae'r heddlu wedi arestio dynes 18 oed mewn cysylltiad â gwrthdrawiad angheuol ar ffordd yr A487 ger Aberystwyth.

Bu farw dynes 18 oed arall, a oedd yn teithio mewn car Vauxhall Astra, yn dilyn y digwyddiad ger troad Commins Coch am 22:00 nos Sadwrn.

Yn wreiddiol fe gadarnhaodd yr heddlu eu bod nhw wedi cael ei galw i wrthdrawiad rhwng dau gerbyd.

Yn dilyn ymholiadau fe ddaeth hi i'r amlwg bod trydydd cerbyd yn rhan o'r digwyddiad, ac fe gafodd dynes 18 oed ei harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Mae hi bellach wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.

Mae gyrrwr y car Astra yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Ail farwolaeth mewn saith mis

Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod teulu'r ferch 18 oed a fu farw wedi cael gwybod, a'u bod nhw'n derbyn cymorth.

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar y ffordd rhwng Aberystwyth a Bow Street adeg y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Dyma'r ail ddigwyddiad angheuol ar y rhan yma o brif ffordd yr A487 o fewn saith mis.

Ym mis Ebrill 2019 bu farw'r Cynghorydd Paul James mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar tra'n ymarfer ar ei feic.