Golwg gyntaf ar geir Aston Martin

  • Cyhoeddwyd
lagondaFfynhonnell y llun, Aston Martin
Disgrifiad o’r llun,

Bydd model newydd y Lagonda'n cael ei wneud yn Sain Tathan

Mae Aston Martin wedi arddangos y prototeip cyntaf o ddau gerbyd trydan fydd yn cael eu cynhyrchu yn eu ffatri ym Mro Morgannwg.

Yn ôl y cwmni, y Lagonda fydd y car moethus cyntaf yn y byd fydd â dim allyriadau o gwbl.

Fe fydd y model y cyntaf yn dod o'r llinell gynhyrchu yn Sain Tathan yn 2021.

Fe fydd car trydan cyntaf Aston Martin, Rapide E, yn barod erbyn y flwyddyn nesaf.

Ym mis Medi eleni fe gyhoeddodd y cwmni eu bod am sefydlu Cymru fel eu 'cartref' ar gyfer ceir trydan.

Dywedodd Andy Haslam o Aston Martin fod y ceir wedi eu hanelu at y rhai a chyflogau uchel sy'n hoff o'r dechnoleg ddiweddaraf - gan geisio apelio yn benodol at bobl arfordir gorllewinol yr Unol Daleithiau a China.

Erbyn yr adeg yma'r flwyddyn nesa', mae Aston Martin yn gobeithio y bydd y safle yn Sain Tathan yn cyflogi 300, gan gynyddu i 700 erbyn gwanwyn 2020.

Gwrthododd Mr Haslam wneud sylw ar adroddiadau gan y BBC fod Llywodraeth Cymru wedi darparu £18.8m i'r cwmni- ond fe ddywedodd nad cymorth ariannol oedd y prif reswm am ddewis y safle yng Nghymru yn hytrach na'r 19 oedd dan ystyriaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Rapide E