Gwobr am waith arloesol i helpu pobl ag anableddau dysgu

  • Cyhoeddwyd
Ruth WilliamsFfynhonnell y llun, Ruth Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dr Ruth Wyn Williams yn derbyn ei gwobr. Gyda hi mae Sarah Thornton o Mencap Môn, sydd yn mynd yn rheolaidd i Brifysgol Bangor i addysgu'r nyrsys

Mae Dr Ruth Wyn Williams, o Brifysgol Bangor, wedi ennill gwobr arbennig gan y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru yn y categori addysg nyrsio, a hynny am ei gwaith arloesol wrth addysgu nyrsys ym maes anableddau dysgu.

Mae hi o'r gred fod angen gwelliannau i wasanaethau nyrsio anableddau dysgu, a bod angen gwneud hynny o ddechrau'r broses hyfforddi nyrsys.

"Be' sy'n digwydd ydi 'dan ni'n gweld 1,200 o bobl anabl bob blwyddyn yn marw yn ddiangen, a maen nhw'n marw o bethau fel diabetes oherwydd fod pobl ddim yn gallu asesu yn iawn."

Dyma pam, meddai, ei bod hi'n rhoi pobl ag anableddau dysgu wrth galon yr hyfforddiant.

"Dwi 'di cychwyn ar daith o drio sicrhau fod pobl ag anabledd dysgu yn rhan o fy nysgu i.

"'Dan ni dan bwysau i roi lot o fyfyrwyr mewn dosbarth a darlithio mewn dosbarth o ryw 200, ond i mi dydi hynny ddim yn rhoi'r profiad angenrheidiol i bobl ddod i 'nabod pobl efo anableddau dysgu."

"Ydach chi'n garedig?"

Mae'r broses ddysgu yn digwydd i ddarpar nyrsys, cyn iddyn nhw hyd yn oed gadarnhau eu lle ar y cwrs, gan fod pobl ag anableddau dysgu yn cael cyfle i gyfweld yr ymgeiswyr eu hunain.

"Maen nhw'n gofyn cwestiynau 'swn i byth yn ofyn, 'swn i byth yn meddwl am, fel 'ydach chi'n garedig?', ac wrth gwrs, ma' hynny mor bwysig.

"Ma'r darpar fyfyrwyr wedi paratoi, wedi darllan yn drylwyr, ond ddim ar gyfar petha' felly.

"Wedyn ma' nhw'n gofyn 'be' 'dach chi'n wylio ar y teledu?'.

"Be' maen nhw isho ydi sgwrs, ac isho edrach os fedr y bobl 'ma sy'n mynd i fod yn nyrsys gyfathrebu'n ôl. Y rhai sy'n deud 'chydig bach, mae['r bobl efo anableddau] yn meddwl, 'dydi rhain ddim am 'neud nyrsys da iawn'."

Mae perthynas y darpar nyrsys gyda phobl ag anableddau dysgu yn parhau drwy gydol eu hyfforddiant yn y brifysgol.

"Un o'r asesiadau blwyddyn gynta' ydy bo' nhw'n cyflwyno'u hunain - ma'r myfyrwyr 'ma i gyd yn mynd allan ar leoliad i weithio efo pobl ag anabledd dysgu, wedyn yn gorfod cyflwyno'u hun.

"Mae 'na banel o bobl ag anabledd yn dod i mewn lle mae'r myfyrwyr yn cael go bach a chael adborth ynglŷn â'r ffordd maen nhw'n cyflwyno'u hunain."

Ffynhonnell y llun, RCN
Disgrifiad o’r llun,

Dr Ruth Wyn Williams

'Addasiadau rhesymol'

I Ruth, mae'r elfen yma o gyfathrebu yn hollol hanfodol i rywun sydd eisiau gweithio fel nyrs anableddau dysgu, ynghyd â gallu cyfathrebu mewn ffyrdd gwahanol, â phobl sydd ag anghenion gwahanol.

"Mi ddoith y tasgau, mi ddoith y mesur pwysau gwaed - fedrwch chi ddysgu rheina - ond mae'n rhaid i'r myfyrwyr 'ma ymarfer cyfathrebu efo bob math o bobl.

"Ma' rhai efo iaith, ma' rhai heb iaith, ma' rhai yn cyfathrebu efo lluniau, ma' rhai yn cyfathrebu efo gwahanol synau, a ma' rhaid i'r nyrsys newid y ffordd ma' nhw'n cyfathrebu.

"Dwi'm yn gofyn iddyn nhw fynd i newid y byd ond mae addasiadau rhesymol yn gallu bod yn defnyddio papur a phensil a gwneud llun i gyfathrebu efo rhywun.

"Cymryd pum munud ychwanegol i ofyn i rhywun ac i ista lawr efo rhywun, trefnu bod 'na fwy o amser pan ma'n nhw'n mynd i weld y doctor, neu drefnu bo' chi'n gweld nhw ar ôl i sicrhau bo' nhw 'di dallt be' sy' 'di digwydd.

"Mae pawb yn brysio o gwmpas, ac i bobl ag anabledd weithiau mae'n rhaid i ni ella stopio a meddwl."

Hefyd o ddiddordeb: