Carcharu dynion o Gymru am ddwyn trysor 'amhrisiadwy'

  • Cyhoeddwyd
Layton Davies, George Powell, Paul Wells and Simon WicksFfynhonnell y llun, Heddlu Gorllewin Mersia
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Layton Davies, George Powell, Paul Wells a Simon Wicks yn euog yn Llys y Goron Caerwrangon

Mae dau ddyn o Gymru, ac un arall, wedi eu carcharu am ddwyn gwerth miliynau o bunnau o drysor Llychlynnaidd ar ôl ei ganfod mewn cae.

Cafwyd George Powell, 38 o Gasnewydd, a Layton Davies, 51 o Bontypridd, yn euog ddydd Iau.

Roedd y ddau wedi canfod tua 300 o ddarnau arian yn Sir Henffordd, ond ni wnaethon nhw gyhoeddi eu darganfyddiad, gan ei werthu yn hytrach.

Cafodd Powell ddedfryd 10 mlynedd, tra bod Davies wedi'i ddedfrydu i wyth mlynedd a hanner dan glo.

Cafwyd dau ddyn arall, Paul Wells, 60 o Gaerdydd, a Simon Wicks, 57 o Hailsham, yn euog o guddio'r darganfyddiad.

Derbyniodd Wicks ddedfryd pum mlynedd o hyd, ond nid oedd Wells yn y llys oherwydd salwch. Bydd yn cael ei ddedfrydu fis nesaf.

Ffynhonnell y llun, Yr Amgueddfa Brydeinig
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r mwyafrif o'r darnau arian gafodd eu canfod bellach ar goll

Clywodd yr achos bod y Powell a Davies wedi canfod y trysor yn 2015, ond ni wnaethon nhw ddweud wrth y ffermwr oedd yn berchen ar y tir.

Yn hytrach aethon nhw at arbenigwyr i geisio canfod gwerth yr eitemau - oedd yn cynnwys arian o 1,100 o flynyddoedd yn ôl a gemwaith.

Mae rhai o'r eitemau'n "amhrisiadwy", a dywedodd yr erlyniad y gallai gwerth y cyfan fod rhwng £3m a £12m.

Fis yn ddiweddarach fe wnaethon nhw gysylltu ag Amgueddfa Cymru, ond gan ddweud eu bod wedi canfod dau ddarn arian a thair eitem o emwaith yn unig.

Roedd y ddau yn mynnu mai sïon yn unig oedd eu bod wedi canfod 300 o ddarnau arian, ond fe wnaeth yr heddlu lwyddo i ganfod lluniau oedd wedi'u dileu oddi ar ffôn Davies oedd yn dangos y trysor yn ei gyfanrwydd.

'90% ar goll'

Wrth eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerwrangon, dywedodd y Barnwr Nicholas Cartwright bod y dynion wedi "twyllo" perchennog y tir a'r cyhoedd.

"Mae hynny oherwydd bod y trysor yn berchen i'r wlad. Y budd i'r wlad ydy bod yr eitemau'n gallu cael eu gweld a'u hedmygu gan eraill."

Ychwanegodd bod "90% o'r darnau arian yn parhau wedi eu cuddio hyd heddiw".