Gostyngiad o 17% mewn sbwriel bagiau bin du yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae cartrefi yng Nghymru wedi llwyddo i sicrhau gostyngiad o 17% mewn saith mlynedd ym maint y sbwriel cartref maen nhw'n ei daflu allan.
Rhwng Hydref 2012 a 2013 roedd 217 cilogram o wastraff yn cael ei gynhyrchu am bob person, ond erbyn yr un cyfnod yn 2018-19 roedd wedi gostwng i 180 cilogram.
Mae'r ffigyrau hynny'n ymwneud â sbwriel sy'n cael ei roi mewn bagiau bin du, ac felly ddim yn cael ei ailgylchu, ailddefnyddio neu gompostio.
Fe wnaeth canran y gwastraff sy'n cael ei ailgylchu aros yn gyson - 63% - rhwng Gorffennaf 2018 a 2019 o'i gymharu â'r flwyddyn gynt.
'Cyfleus heddiw, cost yfory'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "falch iawn mai ni yw'r 1af yn y DU, 2il yn Ewrop a'r 3ydd yn y byd am ailgylchu gwastraff cartref".
Ychwanegodd y llywodraeth mai eu bwriad oedd "parhau i symud tuag at ddim gwastraff wrth i ni symud tuag at economi gylchol".
Ond mae rhai mathau o blastig, gan gynnwys plastig du, yn anoddach i'w hailgylchu - yn rhannol oherwydd bod peiriannau sortio ailgylchu yn ei chael hi'n anoddach i'w hadnabod.
Mae archfarchnadoedd fel Sainsbury's, Tesco, Waitrose ac Asda eisoes wedi dweud y byddan nhw'n rhoi'r gorau i ddefnyddio plastig du yn eu deunyddiau erbyn diwedd y flwyddyn.
"Mae llawer o archfarchnadoedd nawr yn ymwybodol o'r ffaith bod cwsmeriaid yn teimlo'n gryf yn erbyn defnyddio plastig du yn enwedig," meddai Dr Cathrine Jansson-Boyd - seicolegydd prynwyr ym Mhrifysgol Anglia Ruskin.
Llynedd fe wnaeth Sian Sykes badlfyrddio o gwmpas Cymru i godi ymwybyddiaeth o lygredd plastig.
Mae hi bellach yn cynrychioli Ynys Môn ar sefydliad Surfers Against Sewage, ac yn dweud bod angen addysgu pobl sydd ddim yn ymwybodol o ymgyrchoedd di-blastig.
Ychwanegodd y gallai pobl ddechrau wrth ddefnyddio cwpanau, poteli a chytleri y mae modd ei ddefnyddio eto, ac yn araf deg newid deunyddiau plastig untro am bethau mwy parhaol.
"Rydan ni'n gwneud gwahaniaeth ac mae angen cadw'r momentwm yna i fynd," meddai.
"Os ydy o'n gyfleus heddiw, fe fyddwn ni'n gweld y gost 'fory."