Cwpan Her Ewrop: Gleision 11-14 Caerlŷr
- Cyhoeddwyd
Roedd yna siom i Gleision Caerdydd yn eu gem Cwpan Her yn erbyn Caerlŷr nos Sadwrn wrth i'r ymwelwyr gipio'r fuddugoliaeth yn y munudau olaf.
Roedd y Gleision yn arwain y mwyafrif o'r gêm, diolch i gais Aled Summerhill a dwy gic gosb gan Jarrod Evans.
Yn dilyn cais yn yr hanner cyntaf i Jordan Coghlan fe sicrhaodd Tom Hardwick y fuddugoliaeth i'r ymwelwyr gyda'i drydedd gic gosb o'r gêm.
Mae'r Gleision bellach wedi colli pump allan o wyth gêm gystadleuol y tymor hwn.
Roedd hyfforddwr y Gleision, John Mulvihill, wedi cyflwyno naw newid i'r tîm a sicrhaodd fuddugoliaeth o 38-16 yn Calvisano.
Yn ail-ymuno a'r garfan oedd chwaraewyr rhyngwladol Cymru Hallam Amos ac Owen Lane, a dyma oedd ymddangosiad cyntaf Amos i'r Gleision ar ôl wyth mlynedd yn y Dreigiau.
Fe sicrhaodd Jarrod Evans bwyntiau cynta'r gem diolch i ddwy gic gosb, cyn i Aled Summerhill groesi ar gyfer unig gais y Gleision.
Cafodd ail gais ganddo ei wrthod gan y dyfarnwr am fod ei droed wedi croesi'r asgell, cyn i Gaerlŷr elwa o gamgymeriad gan y Gleision am fethu a rhyddhau'r bêl yn y dacl.
Wedi'r gêm dywedodd Mulvihill: "Er ein bod ni wedi llwyddo mewn sawl agwedd o'r gêm dyw hynny ddim wedi ei amlygu ar y scorfwrdd."
"Mae gennym ni chwech o bwyntiau o'r ddwy gêm agoriadol, ond mae hyn nawr yn golygu y bydd rhaid i ni ennill oddi cartref yn y gystadleuaeth."