Bywyd newydd i ddyn gafodd ei anafu'n ddifrifol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gasnewydd gafodd ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn 2013 bellach yn aelod o dîm anabl sydd â'u bryd ar rasio ceir mewn cystadleuaeth yn Le Mans yn Ffrainc.
Dywedodd Andy Tucker, gafodd ei anafu wedi i'w feic modur wrthdaro â char, fod y digwyddiad wedi achosi iselder a nifer o heriau corfforol iddo.
Ond er gwaethaf ei anafiadau mae'r dyn 31 oed bellach yn yrrwr ceir rasio ac wedi ymuno â thîm BRIT.
Mae'r criw, sydd oll ag anableddau, yn gobeithio cyflawni camp unigryw gan nad oes tîm cwbl anabl wedi cystadlu yn y ras hon o'r blaen.
Mae'r tîm yn defnyddio ceir sy'n cael eu rheoli'n llwyr gyda'u dwylo, sy'n golygu nad oes rhaid i yrwyr ddefnyddio eu traed.
Fe ddechreuodd Andy ymgymryd â'r gamp ym mis Ebrill: "Roedd e'n brofiad gwych iawn.
"Roedd e'n brofiad afreal - profiad gwahanol i unrhyw brofiad arall."
Mae ymgymryd â'r gamp wedi bod yn hwb i Andy wrth i'w fywyd fod yn llawn heriau.
"Dwi'n cael trafferth i gerdded - mae'n rhaid i fi ddefnyddio baglau," meddai.
"Mae gwneud paned o de yn anodd gan fod fy llaw yn ysgwyd cymaint. Hefyd mae un o'm mreichiau yn hirach na'r llall ac mae'n anodd cael dillad sy'n ffitio."
'Methu wynebu pethau'
Dywedodd ei fod yn ei chael hi'n anodd siarad am effaith y gwrthdrawiad arno.
Ychwanegodd: "Mae un o'r arbenigwyr iechyd meddwl yn feiciwr.
"Pan ddangosodd ei feic modur i fi yn ei garej roedd dagrau yn llifo lawr fy wyneb.
"I ddweud y gwir fe redais i, y gorau allwn i, 'nôl i'r tŷ.
"Pan ofynnwyd i fi beth oedd yn bod, roedd rhaid i fi ddweud na allwn wynebu'r profiad. Mae hi mor anodd ar adegau. Mae hyd yn oed siarad am y peth yn anodd."
Ond mae'n dweud bod ymuno â thîm wedi cael argraff bositif ar ei fywyd.
"Rwy' wedi gwneud ffrindiau newydd. Mae'n golygu bo fi'n gadael y tŷ," meddai.
"Petawn wedi peidio mynd, mi fyddwn yn siŵr o fod yn fy 'stafell wely yn gwneud dim byd - dim ond aros am y driniaeth a'r apwyntiad meddygol nesaf.
"Ein dywediad ni yw 'credu a chyflawni' ac mae'r tîm wedi fy helpu i wneud hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd10 Medi 2016