'Rhaid trin trais pobl ifanc fel ysmygu neu gyffuriau'

  • Cyhoeddwyd
camdrinFfynhonnell y llun, Llun stoc

Mae cynifer o blant a phobl ifanc yn profi trais tra mewn perthynas fel y dylid ei flaenoriaethu fel camddefnyddio cyffuriau neu ysmygu, yn ôl astudiaeth.

Dywed ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd y dylai trais mewn perthnasoedd ymhlith pobl ifanc rhwng 11 a 16 oed gael ei drin fel mater iechyd cyhoeddus.

Cafodd 75,000 o blant eu holi yn yr arolwg cyntaf o'i fath ar y pwnc.

Dywed un elusen y gallan nhw "ddisgyn rhwng dwy stôl" o ran cefnogaeth trais domestig a gwasanaethau gofal cymdeithasol plant.

Effeithiau hirdymor

Dywedodd Graham Moore, dirprwy bennaeth Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Caerdydd, y gall trais mewn perthynas i blant a phobl ifanc gael "canlyniadau dwys".

"Mewn rhai ffyrdd mae'r perthnasoedd sydd gennym yn ystod llencyndod yn ffurfiannol iawn ac yn gosod y naws ar gyfer y ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â pherthnasoedd yn ddiweddarach mewn bywyd hefyd," ychwanegodd Dr Moore.

Yn ôl yr astudiaeth, mae'r broblem yn effeithio ar fechgyn a merched o bob cefndir economaidd-gymdeithasol, er bod cyfraddau uwch ymhlith plant nad oedd yn byw gyda'u rhieni.

Mae Catherine Hill, o Wasanaethau Cam-drin Domestig Phoenix yn Blaina, Blaenau Gwent, wedi helpu tua 150 o bobl ifanc ar eu prosiect diweddaraf.

Dywedodd y gall problemau fod yn gymhleth oherwydd materion yn digwydd gartref neu ysgol ac y gall hyn eu gadael yn agored i niwed.

Roedd gan tua chwarter y plant 11-18 oed hynny y buon nhw'n gweithio gyda nhw eu plant eu hunain.

Ond mae eu hoedran yn golygu eu bod yn "disgyn rhwng dwy stôl" o wasanaethau sydd ar gael iddyn nhw - dydyn nhw ddim yn blant ifanc mewn amgylchedd cartref ymosodol a dydyn nhw ddim chwaith yn ddigon hen ar gyfer cymorth trais domestig confensiynol.

"Ydyn, maen nhw'n dod o fewn amddiffyn plant bryd hynny ond mae'r gwasanaethau y gall y gwasanaethau cymdeithasol eu cynnig wedyn yn dra gwahanol a dydyn nhw ddim yn ddigon pwrpasol ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnyn nhw," meddai.

'Pwy sy'n gyfrifol am ariannu?'

Roedd gan Phoenix, sydd wedi bod yn gweithredu ers 2002, grant Plant Mewn Angen ond mae nawr yn chwilio am gyllid i barhau.

"Mae'r ffordd rydych chi'n ariannu'r gwaith yn eithaf cymhleth, oherwydd pwy sy'n gyfrifol am ei ariannu?" meddai Ms Hill.

"Nid wyf yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ariannu unrhyw waith o amgylch dioddefwyr ifanc."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cefnogi plant dan 16 oed sy'n profi trais domestig trwy raglenni ysgol ar berthnasoedd iach, a thrwy ddarparu gweithdai hyfforddi ac arweiniad ar gam-drin perthnasoedd cymheiriaid i'r rhai sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

"Bydd cwricwlwm newydd Cymru ar gyfer 2022 yn cynnwys perthnasoedd gorfodol ac addysg rhywioldeb ar gyfer tair i 16 oed, gan sicrhau bod bechgyn a merched yn dysgu am yr hyn sy'n briodol mewn perthynas ac am atal trais domestig."