Cynllun i achub gwaith dur Orb yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun ar y gweill gan weithwyr i gadw gwaith dur Orb yng Nghasnewydd ar agor, yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law'r BBC.
Mae'r cynnig wedi'i seilio ar ddefnyddio cyflenwadau o Gymru yn unig, ac felly bydd yn defnyddio dur o Bort Talbot yn hytrach na'r Iseldiroedd.
Fe gyhoeddodd cwmni dur Tata fis diwethaf eu bod yn mynd i gau'r safle wedi iddyn nhw fethu â dod o hyd i brynwr, gan roi 380 o swyddi yn y fantol.
Ddydd Sadwrn fe orymdeithiodd gweithwyr drwy Gasnewydd i brotestio yn erbyn cau'r safle.
Dull newydd o weithio
Mae Tata yn dweud mai costau uwchraddio sy'n gyfrifol am eu penderfyniad.
Dywedodd y cwmni y bydd hi'n costio £50m i uwchraddio safle Orb er mwyn ei wneud yn un cystadleuol, ac mai eu gobaith yw cynnig swyddi i'r gweithwyr mewn rhannau eraill o Gymru.
Mae undeb Community wedi bod yn gweithio gydag ymgynghorwyr i greu cynllun busnes fyddai angen cyllid o £30m gan Lywodraeth Cymru neu San Steffan.
Mae'r cynllun newydd yn galw am ddulliau newydd i drin y dur ac yn nodi bod angen cynhyrchu dau fath o ddur fel bod modd i'r busnes gynhyrchu ceir trydan.
Dywedodd y byddai gwaith dur Port Talbot angen adnoddau newydd i gyflenwi Orb ac y byddai hi'n cymryd "rhai blynyddoedd" i adeiladu'r rheiny.
Byddai dyfodol Orb yn cael ei ariannu gan werthiant busnes arall sy'n eiddo i Orb, a gobaith yr undeb yw y byddai Llywodraeth Cymru neu'r DU yn ariannu gweddill y cyllid fyddai ei angen.
Yn y gorffennol mae cwmni Tata wedi dweud nad oedd hi'n "gynaliadwy" parhau i ariannu'r safle ac mae'r cwmni a Llywodraeth San Steffan wedi cael cais i wneud sylw am y cynllun newydd.
'Angen i San Steffan weithredu'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi brwydro'n ddiflino yn ystod y blynyddoedd diwethaf i sicrhau bod gan y diwydiant dur ddyfodol llewyrchus a chynaliadwy.
"Byddwn yn parhau i gydweithio â Tata, y gweithwyr ffyddlon ac ymroddgar a gyda'r undebau dur ar draws Cymru er mwyn sicrhau bod y diwydiant dur a'r swyddi cysylltiedig yn aros yma yng Nghymru.
"Ond mae'n rhaid i Lywodraeth y DU weithredu hefyd - dydyn nhw ddim wedi gwneud llawer hyd yma i ddiogelu'r sector - ac ry'n yn galw ar San Steffan eto i gefnogi'r diwydiant a buddsoddi yn y dyfodol.
"Mae Gweinidog yr Economi wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn gofyn iddynt drefnu cyfarfod o'r Cyngor Dur fel bod modd i ni weithio gyda'n gilydd i ddelio â phryderon sy'n wynebu'r diwydiant."
Dywedodd undeb Community bod y cynllun yn un "cryf a chredadwy" ac yn un fyddai'n sicrhau bod y busnes yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd2 Medi 2019
- Cyhoeddwyd10 Mai 2019