McNicholl yn dechrau i Gymru yng ngêm gyntaf Pivac

  • Cyhoeddwyd
Johnny McNicholFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Johnny McNicholl yn gymwys i gynrychioli Cymru am ei fod wedi byw yma ers dros dair blynedd

Mae Wayne Pivac wedi cyhoeddi'r tîm ar gyfer ei gêm gyntaf wrth y llyw gyda Chymru, gyda Johnny McNicholl i wneud ei ymddangosiad cyntaf.

Bydd Cymru'n herio'r Barbariaid yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn, gyda thîm y merched yn herio'r un gwrthwynebwyr cyn hynny.

Mae McNicholl, o Seland Newydd, yn gymwys i gynrychioli Cymru ar ôl iddo basio'r trothwy o fyw yng Nghymru ers dros dair blynedd yn ddiweddar.

Justin Tipuric fydd y capten yn absenoldeb Alun Wyn Jones, gyda Jarrod Evans o'r Gleision yn dechrau fel maswr.

Ffynhonnell y llun, Ramsey Cardy
Disgrifiad o’r llun,

Y gêm yn erbyn y Barbariaid fydd un gyntaf Wayne Pivac wrth y llyw

Rhagflaenydd Pivac, Warren Gatland fydd rheolwr y Barbariaid ar gyfer y gêm, a Nigel Owens fydd y dyfarnwr.

Mae llu o enwau mawr wedi'u hanafu i Gymru, gan gynnwys Jonathan Davies, George North, Rhys Patchell, Josh Navidi, Cory Hill, Gareth Anscombe a Willis Halaholo.

I'r Barbariaid, bydd cyn-gapten Iwerddon, Rory Best yn chwarae ei gêm broffesiynol olaf, tra bod Schalk Brits o Dde Affrica hefyd yn chwarae cyn ymddeol o rygbi rhyngwladol.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Siwan Lillicrap yn cadw ei lle fel capten ar gyfer y gêm y Barbariaid ddydd Sadwrn

Cafodd tîm merched Cymru ei gyhoeddi ddydd Iau hefyd, gyda'r wythwr Siwan Lillicrap yn gapten ar y tîm cenedlaethol.

Daw'r gêm ar ddiwedd mis Tachwedd prysur i'r garfan, wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Sbaen cyn mynd ymlaen i drechu Iwerddon, Yr Alban a'r Crawshays.

Mae 14 o chwaraewyr wedi ennill eu capiau cyntaf dros y tîm cenedlaethol yn y gemau hynny, gyda thair - Paige Randall, Megan Webb a Robyn Lock - yn y tîm fydd yn dechrau ddydd Sadwrn.

Bydd cyn-chwaraewr Cymru, Dyddgu Hywel yn rhan o dîm y Barbariaid wedi iddi ymddeol o chwarae dros y tîm cenedlaethol yn gynharach eleni ar ôl ennill 31 cap.

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; Johnny McNicholl, Owen Watkin, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Jarrod Evans, Tomos Williams; Wyn Jones, Ken Owens, Dillon Lewis, Jake Ball, Adam Beard, Aaron Shingler, Justin Tipuric (c), Aaron Wainwright.

Eilyddion: Elliot Dee, Rob Evans, Leon Brown, Seb Davies, Ollie Griffiths, Gareth Davies, Sam Davies, Owen Lane.

Tîm y Barbariaid

Shaun Stevenson; Dillyn Leyds, Mathieu Bastareaud, Andre Esterhuizen, Cornal Hendricks; Curwin Bosch, Bryn Hall; Campese Maafu, Rory Best (c), Wiehahn Herbst, Luke Jones, Tyler Ardron, Pete Samu, Marco van Staden, Josh Strauss.

Eilyddion: Schalk Brits, Craig Millar, Hencus van Wyk, George Biagi, Angus Cottrell, Jano Vermaak, Billy Meakes, Matt Duffie.

Tîm merched Cymru

Lauren Smyth; Paige Randall, Megan Webb, Kerin Lake, Lisa Neumann; Elinor Snowsill, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones, Cerys Hale, Natalia John, Gwen Crabb, Robyn Lock, Bethan Lewis, Siwan Lillicrap (c).

Eilyddion: Molly Kelly, Gwenllian Jenkins, Amy Evans, Abbie Fleming, Alex Callender, Ffion Lewis, Robyn Wilkins, Kayleigh Powell.

Tîm merched y Barbariaid

Tess Gard'ner; Lauren Harris, Ariana Hira, Jenny Murphy, Dyddgu Hywel; Ruahaei Demant, Brianna Miller; Steph Te Ohaere-Fox (c), Clara Nielson, Silvia Turani, Eloise Blackwell, Rebecca Clough, Paula Fitzpatrick, Anna Caplice, Charmaine McMenamin.

Eilyddion: Sasha Acheson, Saki Minami, Seina Saito, Beth Stafford, Alycia Washington, Ashlee Byrge, Sene Naoupu, Annabel Sergeant.