Yr awyren Americanaidd ar draeth Harlech

  • Cyhoeddwyd
Joseph MearmanFfynhonnell y llun, Joseph Mearman, SCSEE, Prifysgol Bangor

Mae Cadw, sy'n gyfrifol am warchod amgylchedd hanesyddol Cymru, wedi cofrestru awyren Americanaidd a ddaeth i lawr mewn damwain ger Harlech yn 1942.

Hwn yw'r safle damwain awyren dynodedig cyntaf i gael ei ddiogelu yn y DU ar sail ei ddiddordeb hanesyddol ac archaeolegol.

Lockheed P-38 Lightning yw'r awyren, ac fe ddaeth i lawr oddi ar arfordir Ardudwy ym mis Medi 1942, a dyma'r enghraifft orau o safle damwain awyren yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Joseph Mearman, SCSEE, Prifysgol Bangor

Mae'r awyren wedi'i chladdu tua dau fedr o dan y tywod ac mae wedi dod i'r amlwg dair gwaith ers iddo ddod i lawr - gwelwyd yr awyren gyntaf yn yr 1970au, yn 2007 ac yna yn 2014.

Mae Lowri Roberts yn archeolegydd morol ac roedd hi'n siarad ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru Ddydd Iau 28 Tachwedd:

"Dydi'r awyren ddim cweit dan y môr, mae hi rhwng dwy lan. Rhan fwya' o'r amser mae hi wedi ei chladdu dan dywod, ond fe ddaeth hi i'r fei y tro dwytha' yn 2014, ac ers hynny mae pobl wedi cymryd mwy o sylw ohoni, ac mae hi wedi ei chofrestru y flwyddyn yma."

Ffynhonnell y llun, Joseph Mearman, SCSEE, Prifysgol Bangor

Pam ei chofrestru?

"Dauddeg chwech o'r awyrennau yma sy' ar ôl yn y byd," esboniai Lowri, "gyda 22 ohonynt yn America. Mae hynny'n golygu eu bod mewn cyflwr digon da fel bod posib eu hedfan, a dydi y Maid of Harlech fel mae'n cael ei galw yn amlwg methu ei hedfan bellach. Am y rheswm yma dydi hi ddim yn cael ei chyfri ymhlith y 26 sydd ar ôl - mae'n ychwanegol i'r 26."

"Felly mae hi'n archeolegol a hanesyddol. Dyma'r cynta' i gael ei chofrestru oherwydd hynny - mae'r rhan fwya' yn cael eu cofrestru dan y Protection of Military Remains Act nid yn rhywbeth archeolegol. Mae hon wedi ei chofrestru fel scheduled ancient monument, achos gan bod hi ddim o dan y dwr drwy'r amser allwn ni ddim ei chofrestru fel protected wreck.

Ffynhonnell y llun, Joseph Mearman, SCSEE, Prifysgol Bangor

Y peilot ar adeg y ddamwain oedd Ail Lefftenant Robert F. Elliott, 24 oed, o Rich Square, North Carolina, a hedfanodd o Lanbedr ar daith ymarfer saethu.

"Ymarfer oedd y peilot - roedd o'n hedfan gyda baner tu ôl iddo, ag awyren arall yn saethu at y targed.

"'Nath yr awyren gychwyn dau o'r gloch yn y prynhawn o Faes Awyr Llanbedr ger Harlech ac 'nath y peilot ei hedfan am awr ac yna sylweddoli fod ganddi ddim petrol ar ôl. Roedd y peilot wedi defnyddio'r reserve tank yn lle yr un iawn.

"Roedd o fod i gychwyn efo'r tanc wrth gefn, a wedyn newid i'r prif danc chwarter awr i fewn i'r daith, ond mi 'nath o fistêc - 'nath o'm sylwi tan iddo lanio, felly mae hi'n llawn o betrol hyd heddiw.

"'Nath o ddod allan o'r awyren yn saff mewn dwy droedfedd o ddŵr, ond yn anffodus tua tri mis yn ddiweddarach cafodd y peilot ei saethu lawr dros Tunisia a cafodd ei gorff erioed ei ffeindio."

Ffynhonnell y llun, Joseph Mearman, SCSEE, Prifysgol Bangor

Joseph Mearman.SCSEE, Prifysgol Bangor Joseph Mear

Mae nai'r peilot, Robert Elliot, yn byw yn Kingsport, Tennessee heddiw. Mae wedi ymddeol o Lynges UDA ac yn aelod o'r 49th Fighter Squadron Association. Ymwelodd â'r safle yn 2016 gan hefyd fynd i'r dafarn leol lle oedd ei ewythr yn mynd tra roedd yno.

'Atal lladron'

"Mae pobl wedi bod yn dwyn o bethau tebyg, er mwyn dweud 'mae gen i rywbeth o awyren Ail Ryfel Byd'," meddai Lowri. "Ond mae cofrestru hi'n golygu ei bod hi'n cael ei diogelu, mae hi'n erbyn y gyfraith rŵan i rywun ddwyn oddi arni, ac os bysa rhywun yn cael eu dal fe fyddai 'na ddirwy mawr ac mi fysan nhw'n gallu bod mewn trwbl gwirioneddol."

Ffynhonnell y llun, Joseph Mearman, SCSEE, Prifysgol Bangor

Y gobaith yw y bydd yr awyren yn cael ei diogelu am flynyddoedd i ddod, ac mae llawer o'r diolch yn mynd i'r hanesydd lleol Matt Rimmer sydd wedi treulio oriau lawer yn amddiffyn y safle.

Dyweddodd: "Dwi'n teimlo nid yn unig bod hyn yn cydnabod arwyddocâd yr awyren benodol hon yng nghyd-destun hanesyddol, ond hefyd y rôl bwysig chwaraewyd gan Gymru yn erbyn y Natsïaid a'r miloedd o aelodau o griwiau awyrennau o lawer o wledydd a gwblhaodd eu hyfforddiant yma."

Cawn weld dros y blynyddoedd sut effaith bydd y dŵr halenog yn ei gael ar yr awyren, ond mae rhai yn obeithiol y bydd gwarchodaeth CADW yn gymorth i'w hamddiffyn.

Ffynhonnell y llun, Bettmann
Disgrifiad o’r llun,

Fel hyn byddai'r awyren wedi edrych yn newydd. Cafodd dros 10,000 eu hadeiladu yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gydag ond 26 ar ôl erbyn heddiw.

Heyfd o ddiddorden: