Cyn-hyfforddwr dringo'n gwadu cam-drin bachgen
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-hyfforddwr dringo oedd yn rheoli canolfan addysg awyr agored ym Mannau Brycheiniog wedi dweud wrth Lys Y Goron Caerdydd nad oedd wedi cam-drin bachgen yn ystod trip mynydda.
Mae Robert Pugh, 75, o Gaerdydd yn gwadu 10 cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar dri bachgen yn y 1980au a'r 1990au yn ystod cyrsiau a gafodd eu trefnu trwy Ganolfan Storey Arms.
Cafodd y rheithgor orchymyn gan y barnwr ddydd Gwener i'w gael yn ddieuog o dri chyhuddiad pellach gan nad oedd digon o dystiolaeth.
Dywedodd Mr Pugh wrth y llys nad oedd yn cofio rhannu pabell gyda'r bachgen, a'i fod heb geisio cyffwrdd ynddo yn anweddus.
Clywodd y llys bod Mr Pugh yn arbenigo ar fynydda ac yn dod i adnabod plant oedd yn ymweld â Chanolfan Storey Arms yn aml.
Roedd y plant, meddai wrth y rheithgor, yn mynd yna ar gyrsiau wythnos o hyd oedd wedi'u trefnu trwy'u hysgolion, ac roedd unigolion oedd yn dangos "brwdfrydedd sylweddol" yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn cyrsiau pellach.
Dywedodd bod "llond llaw [o'r rheiny] bob blwyddyn" yn "dod i'r ganolfan yn aml iawn".
Roedd yr unigolion hynny, meddai, yn gweithio'n ddi-dâl yn y ganolfan ac fel hyfforddwyr cynorthwyol er mwyn cael mwy o brofiad.
Dywedodd ei fod yn cofio bod y bachgen wedi dod ar drip mynydda ond nid oedd yn cofio aros mewn pabell ar y daith.
Mynnodd nad oedd erioed wedi rhannu pabell gyda'r bachgen.
Gofynnodd bargyfreithiwr yr amddiffyn, Hillary Roberts: "Mae'n honni eich bod wedi ceisio cyffwrdd ynddo. A wnaeth unrhyw beth felly ddigwydd?"
Atebodd Mr Pugh: "Dim byd. Na".
Ychwanegodd bod dim cysylltiad wedi bod rhyngddo ef a'r bachgen ers y daith dan sylw nes i'r honiadau ddod i'r amlwg.
'Anwiredd'
Yn ôl Mr Pugh, roedd yr ail achwynydd yn ddringwr abl a ddaeth i helpu staff y ganolfan.
Dywedodd y byddai weithiau'n curo ar ddrws y bachgen i'w ddeffro yn y bore ond doedd ddim yn cofio mynd i'r ystafell ac eistedd ar ei wely.
Roedd "yn bendant" heb geisio cyffwrdd yn ei fannau preifat, meddai, ac roedd yn siŵr na fu unrhyw reswm i achosi'r bachgen feddwl ar gam bod hynny wedi digwydd.
Dywedodd nad yw'n cofio a deithiodd y bachgen yn ei gar ar daith dramor, ond mae'n siŵr nad oedden nhw erioed wedi rhannu pabell, a'i fod erioed wedi ceisio cyffwrdd ynddo mewn unrhyw fodd.
Roedd hefyd yn cofio'r trydydd achwynydd fel "bachgen deallus" oedd yn ymweld â'r ganolfan dros sawl blwyddyn.
Mynnodd Mr Pugh mai "anwiredd" oedd honiad ei fod wastad yn rhy agos i'r bachgen ac yn cyffwrdd yn ei fannau preifat.
"O ran rhoi breichiau am ei ysgwyddau, roedd athrawon yn gwneud pethau yn yr 80au, ni allai gofio os roeddwn i," dywedodd, gan wadu rhoi ei law ar goesau bachgen neu unrhyw gyffyrddiad y gellir ei ddehongli'n weithred anweddus.
Dywedodd nad oedd yn gweld dim o'i le gyda thaith sgïo ar ben ei hun gyda bachgen oedd yn y chweched dosbarth ar y pryd gan ei fod wedi cael profiad gwaith yng Nghanolfan Storey Arms.
"Ro'n i a holl staff y Storey Arms yn ei nabod yn dda iawn," meddai, gan ychwanegu mai dau wely sengl oedd yn eu stafell yn y gwesty, nid gwely dwbl.
Gan gyfeirio at dystiolaeth y bachgen bod y diffynnydd wedi ymosod arno'n anweddus ddwywaith mewn car yn ystod y daith honno, dywedodd Mr Pugh na wnaeth ddim byd o gwbl allai gael ei ddehongli fel gweithred anweddus.
Mae Mr Pugh yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn ac mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019