Cadair Dewi Emrys a Chanada
- Cyhoeddwyd
Am ddegawdau doedd gan neb syniad ble roedd hi. Ond ddechrau'r flwyddyn newydd daeth cadarnhad bod un o gadeiriau eisteddfodol Dewi Emrys wedi dod i'r fei yng Nghapel Jewin yn Llundain. Erbyn hyn gall Cymru Fyw ddatgelu rhagor o gefndir Cadair Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr 1948.
Ar ôl i'r stori gael ei chyhoeddi ar Cymru Fyw cysylltodd David Llewelyn Williams, Llywydd Cymdeithas Gymreig Vancouver, gyda ni yn cynnig mwy o wybodaeth am y gadair.
"Rhodd gan Gymdeithas Cambrian Vancouver oedd y gadair, rhywbeth sy'n destun balchder i'r gymdeithas, sy'n parhau yn weithgar yng ngorllewin Canada," meddai David Llewelyn Williams.
"Mae cysylltiad y gymdeithas â'r Eisteddfod honno yn gryfach fyth gan fod Llywydd y gymdeithas ar y pryd, Thomas Edwards, wedi teithio draw i'r Brifwyl i gynrychioli Cymry alltud fel Arweinydd Undeb y Cymry ar Wasgar. Hwn oedd y tro cyntaf i hyn ddigwydd yn hanes yr Eisteddfod, ac mae'r traddodiad yn parhau hyd heddiw."
Cafodd y darganfyddiad ei wneud yng Nghapel Jewin gan Iwan Davies, a hynny ychydig dros ddwy flynedd wedi i Twm Morys fynd ar drywydd cadeiriau coll Dewi Emrys mewn rhaglen ddogfen i S4C.
Dewi Emrys a Dyfed yw'r unig feirdd i'w cadeirio bedair gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Erbyn hyn, mae'r rheolau wedi newid.
Tlws enillodd Dewi yn 1943, yn hytrach na chadair, ac mae'r gadair gyntaf enillodd dal i fod ar goll. Wyddoch chi ble mae hi?