Magwraeth Aberystwyth yn ysbrydoli Taron Egerton i ganu
- Cyhoeddwyd
Mae'r actor Taron Egerton wedi dweud bod ei fagwraeth yn Aberystwyth wedi achosi iddo "syrthio mewn cariad" â chanu.
Mae wedi'i enwebu ar gyfer gwobr Grammy am albwm o ganeuon Syr Elton John o'r ffilm 'Rocketman'.
Bu Egerton hefyd yn serennu yn y ffilm sydd yn portreadu bywyd y canwr.
Mewn cyfweliad â BBC Cymru dywedodd fod yr awgrym y gallai hefyd gael ei enwebu am Oscar yn "syniad anghredadwy".
O Fôn i Aberystwyth
Ganwyd Egerton ym Mhenbedw, ond pan yn blentyn fe symudodd ei deulu i Fôn, ac yna i Aberystwyth pan oedd yn 12 oed.
Yn y ffilm 'Rocketman' mae'r actor 30 oed yn portreadu trawsnewidiad Syr Elton John o fod yn chwaraewr piano ifanc a swil, i fod yn seren ryngwladol.
Mae'n cyfleu uchafbwyntiau a chyfnodau isel y canwr, gan gynnwys ei frwydr yn erbyn alcohol a chyffuriau.
Treuliodd Egerton amser yn recordio caneuon Syr Elton yn y stiwdio, tra roedd rhai wedi'u recordio ar leoliad yn ystod y ffilmio.
Dywedodd ei bod hi'n rhywbeth "rhyfeddol" i ymgymryd â'r rôl, "yn enwedig os ydych yn rhywun sydd wrth ei fodd yn canu".
"Yn amlwg [mae canu] yn rhan enfawr o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. Mae rhan fawr o fy mhrofiad i o gwympo mewn cariad â chanu i'w wneud â fy magwraeth yng Nghymru.
"Mae'n wirioneddol wych bod [canu] yn rhywbeth sydd wedi tyfu i fod yn rhan o'r hyn sydd wedi sefyll mas yn ystod fy ngyrfa fel actor, yn enwedig yn ddiweddar gyda 'Rocketman' ac yn gynharach gyda 'Sing', y ffilm animeiddiedig wnes i actio ynddi."
Daeth Egerton yn ffrind i Syr Elton wrth baratoi ar gyfer saethu'r bywgraffiad sinematig, proses oedd wedi cynnwys aros am gyfnod byr gyda Syr Elton a'i deulu.
"Bryd hynny, rhoddodd y clustlws diemwnt i mi, sef yr un cyntaf iddo ei brynu erioed. Dyna dwi'n ei wisgo ym mhob un o'r golygfeydd rehabilitation yn y ffilm.
"Felly mae wedi bod yn rhan wirioneddol anhygoel o'r profiad. Nid yn unig gallu cael mynediad ato, a gallu gweithio gyda fe mewn rôl broffesiynol, ond hefyd i deimlo fel ein bod ni wedi dod yn ffrindiau go iawn."
'Anghredadwy'
Ers i'r ffilm gael ei rhyddhau ym mis Mai mae'r daith hyrwyddo wedi golygu teithio dros y byd i Egerton.
Siaradodd â BBC Cymru Fyw yr un noson iddo ymddangos mewn digwyddiad Bafta yn Llundain, ac roedd ar fîn ymweld â theulu yng Nghymru wedi misoedd o waith.
Fel rhan o'r daith hyrwyddo ar gyfer y ffilm, mae wedi ymddangos ar lwyfan gyda Syr Elton John i berfformio caneuon fel Rocketman a Your Song.
"Mae canu gyda fe wedi bod mor, mor anghredadwy ac rwy'n teimlo fy mod i wedi tyfu tra dwi wedi bod yn gwneud hyn.
"Y tro cyntaf roeddwn i mor nerfus. Ond fe aeth hi'n dda, roedd hi'n hwyl i ddweud y gwir, ac fe wnes i fwynhau fy hun er gwaethaf y nerfau. A phob tro, yn raddol, dwi wedi tyfu'n llai nerfus.
"A'r tro diwethaf, y tro olaf inni ganu gyda'n gilydd o bosib, roeddwn i wir yn teimlo mod i'n gallu rheoli pethau."
Mewn cyfweliadau i hyrwyddo'r ffilm mae Taron Egerton wedi siarad am y gwisgoedd manwl, y gwallt a'r colur oedd ei angen i berffeithio'r ddelwedd.
Ond dywedodd mai'r dannedd oedd y peth pwysicaf i'w cael yn gywir.
"Fe wnes i fynnu bod angen cael y dannedd yn iawn, ond roedd rhai yn credu nad y dannedd oedd y peth pwysicaf, ond roeddwn i wir yn teimlo bod nhw'n bwysig."
Roedd yn rhaid i gynhyrchwyr defnyddio technoleg ôl-gynhyrchu i addasu ymddangosiad dannedd Egerton.
"Mae'r opsiynau'n gyfyngedig i wneud i hynny weithio. Os oes gennych chi ddannedd ffug, mae'n rhwystro'ch ffordd o siarad, a hefyd eich canu chi, a doeddwn i ddim am wneud hynny.
"Felly gofynnais a oedd modd iddyn nhw baentio'r bwlch [rhwng y dannedd] a defnyddio effeithiau gweledol i'w drwsio. Roedd rhaid i fi frwydro'n weddol galed. Ond ges i fe!"
Mae gwerth bron i $200m o docynnau sinema wedi eu gwerthu i'r ffilm dros y byd, ond cyfnod y gwobrau mawr fydd yn penderfynu os yw ei boblogrwydd hefyd yn cael ei adlewyrchu gydag anrhydeddau'r diwydiant.
Roedd Egerton ar ei wyliau pan gyhoeddwyd enwebiadau'r gwobrau Grammy yn ddiweddar, ac fe glywodd gan ei bartner - y cyfarwyddwr cynorthwyol ffilmiau Emily Thomas - fod ei drac sain ar gyfer Rocketman ar y rhestr fer.
"O'n i'n meddwl mai jôc oedd o. Ond, na, mae'n wir.
"Dyw e ddim yn gallu adlewyrchu fi yn unig, ac os unrhyw un, Giles Martin a gynhyrchodd y record dylai cael y clod, a'r holl gerddorion anhygoel a'r bobl eraill sy'n canu."
Yn ei premiere yng Ngŵyl Ffilm Cannes roedd y dorf ar eu traed ar ddiwedd y ffilm, ac ar y cyfan mae'r ymateb gan y beirniaid wedi bod yn gadarnhaol.
Wrth awgrymu y gallai derbyn enwebiad am Oscar yn y flwyddyn newydd, mae Egerton yn gyffrous - ac yn wyliadwrus.
"Mae'n rhaid i chi fod yn ymarferol. Mae'n hyfryd y byddai unrhyw un yn meddwl hynny, neu'n gwylio'r ffilm ac yn teimlo eich bod chi'n haeddu bod yn rhan o sgwrs [am yr Oscars].
"Ac mae hi'n beth rhyfeddol, rhyfeddol iawn. Ond nid dyna pam 'da chi'n gwneud hyn, a dylai hi ddim fod yn rheswm i wneud i chi actio."
Ond ychwanegodd: "Does dim dwywaith amdani. Mae hi'n syniad anghredadwy ac wrth gwrs fyddai hi yn rhywbeth anhygoel i gael enwebiad am Oscar."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2019