Pwy yw Taron Egerton?
- Cyhoeddwyd
Nos Sul, 5 Ionawr, cipiodd yr actor Taron Egerton o Aberystwyth, wobr yr actor gorau mewn ffilm gerddorol neu gomedi yn y Golden Globes yn Los Angeles, am ei ran yn y ffilm Rocketman.
Mae Taron Egerton yn un o sêr ffilm mwya' disglair y wlad ers portreadu'r canwr Elton John yn y ffilm am ei fywyd, a disgrifiodd y ffilm fel "profiad gorau fy mywyd."
Mewn cyfweliad â BBC Cymru ym mis Rhagfyr, dywedodd fod yr awgrym y gallai hefyd gael ei enwebu am Oscar yn "syniad anghredadwy".
Ond beth yw cysylltiadau Cymreig yr actor sy'n gwneud enw i'w hun yn Hollywood, ac yn disgrifio ei hun fel Cymro i'r carn?
Dyddiau cynnar
Wedi'i eni yng Nglannau Mersi, symudodd Taron i Lanfairpwll, Ynys Môn, pan oedd yn blentyn ar ôl i'w rieni wahanu. Mae wedi codi proffil y pentref drwy gael ei herio dro ar ôl tro i ynganu'r enw lle enwog ar amryw o raglenni, gan gynnwys The Tonight Show with Jimmy Fallon lle roedd Taron yn ynganu'r enw yn berffaith, tra fod yr actor Hugh Jackman yn cael cryn drafferth.
Aeth i Ysgol Llanfair cyn symud i Aberystwyth gyda'i fam yn 12 oed. Yno, aeth i Ysgol Penglais a chafodd flas ar actio yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Ar y llwyfan yno chwaraeodd ei ran gyntaf, sef yr Artful Dodger yn y sioe Oliver.
Mae wedi dweud bod ei fagwraeth yn Aberystwyth wedi achosi iddo "syrthio mewn cariad" â chanu.
Yn ôl i Aber
Mae'r actor yn gallu siarad Cymraeg, yn ystyried ei hun yn Gymro i'r carn ac yn galw Aberystwyth yn gartref o hyd. Er nad yw'n byw yno bellach, mae ei fam a'i deulu yn byw yn y dref o hyd, felly mae'n wyneb cyfarwydd i drigolion Aber ac yn dal i fwynhau ymweld â thafarn Rummers.
Yn ogystal â Taron, mae nifer o actorion ifanc llwyddiannus heddiw yn hanu o'r dref glan môr, gan gynnwys Elen Rees, Gwyneth Keyworth a Jacob Ifan â nifer ohonynt wedi cael cyfle cyntaf i berfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Ac yno yn y Ganolfan trefnodd Taron ddangosiad elusennol o'i ffilm fawr Kingsman: The Secret Service, y ffilm a ddaeth ag ef i amlygrwydd, pan gafodd ei rhyddhau yn 2015. Rhoddwyd yr holl elw o'r noson i Gymdeithas Clefyd Motor Neurone, elusen sy'n arbennig iddo wedi iddo golli ei fam-gu i'r salwch yn 2003.
Fel y dywedodd am Aber wrth wefan The Tab ar y pryd: "Mae'r lle hwn yn fi, mae'r lle hwn yn gartref. Dydw i ddim yn byw yn Llundain, dwi'n byw yma. Pwy sy'n poeni am Berlin ac Efrog Newydd, Aberystwyth sy'n bwysig."
Dawn actio
Ar ôl ei ddyddiau ysgol cafodd Taron le yn RADA a thair blynedd wedi iddo raddio cafodd gynnig y brif ran yn y ffilm Kingsman: The Secret Service gyda Syr Michael Caine a Colin Firth. Yn ogystal â chael ei enwebu ar gyfer gwobr BAFTA Rising Star 2016, mae hefyd yn adnabyddus am ei rannau yn y gyfres deledu The Smoke ac yn y ffilmiau Eddie the Eagle a Robin Hood.
Daeth dawn canu Taron i'r amlwg yn yr animeiddiad Sing lle chwaraeodd ran Johnny, gorila oedd yn breuddwydio am fod yn ganwr ac sy'n canu cân Elton John I'm still standing yn y ffilm.
Mae'r actor yn dal i gofio ambell i glasur cerddorol Cymraeg ac mae dros filiwn o bobl wedi ei wylio yn canu Calon Lân ar glip YouTube o The Tonight Show With Jimmy Fallon.
Yn ogystal â chanu, mae'n gallu dawnsio ac mae'n debyg fod Elton John wedi'i syfrdanu gan ei drawsnewidiad i chwarae rhan y canwr yn y ffilm Rocketman. Yn y ffilm, sy'n cael ei disgrifio fel ffantasi cerddorol, mae'r actor o Aber yn canu'r caneuon ei hun, gan roi ei stamp unigryw arnynt.
Mae Elton John a Taron Egerton wedi dod yn ffrindiau ers iddo bortreadu'r canwr yn y ffilm.
Dywedodd Taron wrth GQ am chwarae rhan y canwr enwog: "Mae'r ffilm hon yn teimlo fel fi o'r diwedd yn dweud wrth y byd: dyma fi."