Ble mae'r sêr yn cadw eu gwobrau?
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid fod ennill Oscar yn un o binaclau gyrfa actor ond beth i'w wneud gyda'r ddelw aur eiconig ar ôl ei hennill?
Ydy hi'n ddi-chwaeth i enillwyr wneud gormod o ffys o'u gwobrau yn eu cartrefi? Neu a ddylen nhw rannu eu llwyddiant gyda balchder?
Yn ôl chwedloniaeth Hollywood mae'r actores Emma Thompson yn cadw ei Oscar hi yn y tŷ bach, rhag ymddangos yn rhy hunan-bwysig; mae un Jennifer Lawrence ar ben piano ei rhieni, un Russell Crowe yn ei gwt ieir a delw Timothy Hutton yn byw yn yr oergell.
Roedd un o enillwyr Oscar prin Cymru, Hugh Griffith o Ynys Môn, yn cadw'r ddelw aur ar ei silff lyfrau yn ei fflat yn Llundain meddai ei nai, Wiliam Roger Jones.
Roedd yr actor yn defnyddio pen ôl ei Oscar i danio ei sigârs yn ôl stori gan y diweddar John Hefin, wnaeth ei gyfarwyddo yn y ffilm Grand Slam.
Erbyn hyn mae Mr Jones, sy'n byw yn Llanbedrog, wedi etifeddu Oscar ei ewythr ac yn ei gadw "mewn lle saff" - ond nid yw am ddatgelu lle yn union.
Enillodd Hugh Griffith y wobr am fod yr actor cynorthwyol gorau yn 1960 am ei ran yn Ben Hur. Roedd hefyd yn aelod o'r Orsedd.
Doedd Hugh Griffith ddim yn y seremoni, dolen allanol i dderbyn ei wobr meddai ei nai - gyda siawns o un mewn pump doedd o ddim yn teimlo ei bod yn werth gwneud y daith i LA.
Cafodd wybod ei fod wedi ennill gan ei chwaer, Elen Roger Jones, oedd hefyd yn actores adnabyddus, sef mam Wiliam Roger Jones.
"Roedden ni'n byw yn Ninbych ar y pryd. Roedd Mam wedi clywed ei fod wedi ennill y peth cynta' yn y bore ar y newyddion, ac mi ffoniodd hi ei brawd yn syth i ddweud - roedd o'n dal yn ei wely!" meddai Mr Jones.
Y flwyddyn ganlynol fe aeth i'r seremoni i gyflwyno'r wobr i'r actores gynorthwyol orau, dolen allanol.
Dal yn y bocs
Er nad yw wedi ennill Oscar - eto - mae'r actor o Gaerdydd Matthew Rhys yn gwneud job go dda o gasglu tlysau ar hyn o bryd.
Enillodd wobr Emmy yn 2018 a gwobr y Broadcast Film Critics Association fis Ionawr 2019 - y ddau am ei rôl yn y gyfres deledu The Americans. Mae hefyd wedi ei enwebu am Golden Globe.
Er iddo dynnu'r Emmy allan i'w ddangos dros y ffôn pan aeth BBC Cymru i ffilmio yn nhŷ ei rieni yng Nghaerdydd mae'n debyg mai nôl i mewn i'r bocs yr aeth y wobr, ac yno mae'n dal i fod ar lawr ei swyddfa yn Efrog Newydd, lle mae'n byw.
Dydi Matthew ddim wedi cael amser i'w ddadbacio a dewis lle i'w arddangos eto mae'n debyg!
Mae'r ddwy wobr Bafta Cymru mae Matthew Rhys wedi eu hennill wedi aros yng nghartref ei rieni yng Nghaerdydd - rhy drwm i'w cario dros yr Iwerydd mae'n siŵr.
Ar wahân i Hugh Griffith, y criw dethol o Gymry sydd wedi ennill gwobrau'r prif actorion yng Ngwobrau'r Academi hyd yma yw Ray Milland, Anthony Hopkins a Catherine Zeta Jones. Cafodd Christian Bale, enillodd Oscar y prif actor am The Fighter yn 2011, ei eni yng Nghymru hefyd.
Cafodd Bale unwaith eto ei enwebu am Oscar prif actor eleni am ei rôl fel Dick Cheney yn Vice, ond fe aeth y wobr i Rami Malek am ei bortread o Freddy Mercury yn y ffilm Bohemian Rhapsody.
Mae Cymry eraill wedi ennill yr anrhydedd am eu gwaith tu ôl i'r llen gan gynnwys Huw arall yn 2000 - enillodd Huw Gwilym o ardal Caernarfon wobr wyddoniaeth a pheirianneg yr Academi am ei waith gydag aelodau eraill ei gwmni ym maes cymysgu sain.
Mae'r dylunydd Annie Atkins oedd yn arwain y tîm enillodd Oscar am waith graffeg y ffilm The Grand Budapest Hotel hefyd wedi ei geni yng Nghymru.