Llys yn cael dyn yn euog o lofruddio gweithiwr elusen

  • Cyhoeddwyd
Mark BloomfieldFfynhonnell y llun, Family Photo
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mark Bloomfield ddeuddydd ar ôl cael ei ganfod wedi'i anafu tu allan i dŷ tafarn yn Abertawe

Mae Llys y Goron Abertawe wedi cael arbenigwr judo a ju jitsu yn euog o lofruddio dyn 54 oed wedi ffrae yn un o dafarndai'r ddinas.

Roedd Colin Payne, 61 oed ac o Abertawe, wedi pledio'n euog i ddynladdiad Mark Bloomfield ym mis Gorffennaf ond yn ddieuog i gyhuddiad o lofruddiaeth.

Clywodd y rheithgor, a gymrodd lai nag awr i gytuno ar eu dyfarniad, bod Mr Bloomfield wedi ei ganfod gydag anafiadau y tu allan i dafarn y Full Moon ar Stryd Fawr ar ôl cael dwy ergyd "ffyrnig" i'w wyneb.

Roedd Mr Bloomfield wedi gweithio yn y sector elusennol, gan gynnwys cyfnod fel cynorthwyydd arbennig i'r Fam Theresa.

Mae'r barnwr, Paul Thomas QC, wedi rhybuddio Payne i ddisgwyl dedfryd o garchar am oes pan fydd yn ôl o flaen y llys ddydd Mercher.

'Dim sgarmes'

Wrth grynhoi ar ran yr amddiffyn, honnodd Jonathan Rees QC bod Mr Bloomfield wedi ymddwyn yn "afreolus" cyn yr ymosodiad, gan achosi i gwpl ifanc arall deimlo mor anghyfforddus nes iddyn nhw adael y dafarn wyth munud ar ôl cyrraedd.

Roedd Mr Bloomfield, meddai, "wedi gwneud ystum" gyda'i ddyrnau tuag at y diffynnydd.

Awgrymodd hefyd taw Mr Bloomfield oedd wedi cynghori'r cwpl ifanc i adael, a hynny yn sgil ffrae a gychwynnodd wedi i ddiod Mr Bloomfield gyffwrdd yng nghefn cymar y diffynnydd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Stryd Fawr, Abertawe

Ond wrth grynhoi achos yr erlyniad, dywedodd Christopher Clee QC nad amddiffyn ei hun wnaeth Payne.

"Nid ar unrhyw adeg oedd e mewn sgarmes gyda Mark Bloomfield," meddai. "Roedd yna ymosodiad anghyfreithlon arno, tu fewn a thu allan i'r dafarn, gan y diffynnydd."

Fe welodd y rheithgor luniau CCTV yn dangos y ddau ddyn yn dadlau cyn i Payne gyffwrdd yn Mr Bloomfield gerfydd ei wddf a'i daflu i'r llawr.

Mae'r lluniau hefyd yn dangos Payne yn dilyn Mr Bloomfield tu allan cyn ei fwrw i'r llawr eto.

Aeth Payne yn ôl i'r dafarn wrth i barafeddygon drin Mr Bloomfield.

Wrth gadarnhau na fyddai'r amddiffyn yn cyflwyno unrhyw dystiolaeth i'r llys, dywedodd Mr Rees bod Payne yn derbyn cyfrifoldeb am y farwolaeth a'i fod yn "wirioneddol edifar".

Pwysleisiodd y barnwr i'r rheithgor bod gan Payne "hawl diamod" i beidio rhoi tystiolaeth, ac mai byrdwn yr erlyniad oedd profi achos o lofruddiaeth.