Dysgu ieithoedd yn plymio yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
ieithoedd

Mae'r nifer sy'n astudio TGAU a Lefel A mewn Ieithoedd Tramor Modern yng Nghymru wedi plymio, yn ôl adroddiad newydd gan British Council Cymru.

Yn ôl yr adroddiad, mae'r dirywiad yn fwy serth yng Nghymru nag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, gyda chwymp o 28% yn nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU mewn Ieithoedd Tramor Modern (ITM) yn ystod y pum mlynedd diwethaf a gostyngiad o 22% ar gyfer Lefel A.

Mae'r adroddiad yn dangos fod disgyblion mewn 73% o ysgolion yn dewis peidio astudio ieithoedd ar gyfer TGAU a Lefel A am fod yr arholiadau'n rhy anodd.

Yn ogystal, ystyrir bod ITM yn anaddas ar gyfer disgyblion llai abl ac yn heriol i bawb.

Angen 'newid agwedd'

Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr, British Council Cymru: "Os yw Cymru am fod yn effeithiol wrth werthu ei hunan i'r byd, mae angen pobl ifanc sydd â sgiliau iaith da sy'n gallu manteisio ar gyfleoedd busnes a dylanwadu'n gadarnhaol ar weddill y byd.

"Mae hyn yn bwysicach fyth yng nghyd-destun Brexit gan y bydd mwy o angen nag erioed i Gymru estyn allan i weddill y byd. Gallai dirywiad parhaus ITM yn ein hysgolion niweidio gallu Cymru i wneud hynny yn y tymor hir.

"Rydym yn falch i nodi fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu adnewyddu cynllun Dyfodol Byd-eang gan obeithio y bydd hyn hefyd yn cynnwys proses o ymgynghori gydag ysgolion a sefydliadau sy'n gweithio mor galed i wella sefyllfa ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru.

"Mae angen i'r gwaith yma gyd-fynd â newid mewn agwedd; mae angen mynd i'r afael â'r argraff fod ieithoedd tramor, rhywsut, yn llai gwerthfawr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ym mis Tachwedd 2019, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru eu bod yn mynd i adolygu manylebau ITM. Daeth hynny yn sgil adolygiad tebyg a gynhaliwyd yn Lloegr i addasu safonau graddio arholiadau TGAU Ffrangeg ac Almaeneg.

Yn ogystal ag ystyried data arholiadau a holi athrawon mewn 269 o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru, mae adroddiad British Council Cymru hefyd yn ystyried sut mae agweddau at werth sgiliau iaith wedi newid a throi'n negyddol dros amser.

Er gwaethaf tystiolaeth gadarn fod ieithoedd yn bwysig ar gyfer masnach, busnes ac ymchwil, mae tueddiad cynyddol ymysg disgyblion yng Nghymru i gefnu ar sgiliau iaith. Yn gynyddol, ystyrir bod pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn fwy defnyddiol i ddisgyblion a myfyrwyr sy'n graddio mewn marchnad eithriadol o gystadleuol.

Mae cymhlethdod arall yn wynebu dysgu ITM yng Nghymru yn ôl yr adroddiad.

Er bod ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn cofleidio dysgu ieithoedd rhyngwladol ynghynt nag ysgolion cyfrwng Saesneg, mae athrawon yn nodi fod ymdrechion i hybu'r Gymraeg mewn ysgolion uwchradd weithiau'n digwydd ar draul ITM.

Cynradd ar gynnydd

Er hynny, mae darlun mwy cadarnhaol yn dechrau datblygu ymysg ysgolion cynradd lle mae tystiolaeth fod diddordeb mewn ITM yn cynyddu, yn enwedig mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Ymatebodd 155 o ysgolion cynradd i arolwg Tueddiadau Ieithoedd yng Nghymru ac fe ddangosodd yr ymatebion hynny fod y ddarpariaeth ar gyfer dysgu ieithoedd yn cynyddu. Dywedodd 39% o'r ysgolion eu bod yn darparu rhyw fath o wers ITM, o'i gymharu â 28% yn 2016.

Yn ddiweddar mae'r Gweinidog dros Addysg wedi ailadrodd y neges am bwysigrwydd cynnwys ITM yng nghwricwlwm ein hysgolion cynradd.

Ond mae British Council Cymru'n pryderu "rydym mewn perygl o golli cenhedlaeth gyfan o ddysgwyr ieithoedd wrth i blant sy'n dechrau dysgu ieithoedd yn yr ysgol gynradd ffeindio fod prinder darpariaeth neu ddim darpariaeth o gwbl ar gyfer Ieithoedd Tramor Modern mewn 39% o ysgolion uwchradd".

Casgliad cyffredinol yr arolwg yw bod angen cymhellion a chefnogaeth tipyn mwy na maint a chwmpas presennol cynllun Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru i ateb her y dirywiad difrifol mewn Ieithoedd Tramor Modern yn ysgolion uwchradd Cymru ac i helpu'r gwaith o ddatblygu'r ddarpariaeth mewn ysgolion cynradd.