Adfer beiciau i'r Nadolig: Gwaith un dyn o Gasnewydd
- Cyhoeddwyd
Ers dechrau trwsio beiciau ail-law fis diwethaf, mae Mike Jones wedi adfer dros 50 beic a'u cynnig i deuluoedd yn ei ardal sy'n methu fforddio prynu anrhegion Nadolig eleni.
Dywedodd Mr Jones, 44, bod e wedi "synnu" wrth ddod ar draws teuluoedd sydd "wir yn stryglan ar hyn o bryd, pobl sydd wedi colli eu swyddi, ac sydd ar Gredyd Cynhwysol".
"Mae pobl wedi dweud wrtha'i bod nhw methu rhoi coeden lan, bod nhw'n mynd i fanciau bwyd," ychwanegodd. "Mae angen mawr allan yna."
Ers dechrau ar y prosiect yn ei amser sbâr ym mis Tachwedd, mae Mr Jones, sy'n ofalwr llawn amser i'w wraig, wedi derbyn dwsinau o feiciau ail-law ac mae e bellach yn gweithio gydag elusennau lleol i ddarparu beiciau i deuluoedd cyn dydd Nadolig.
Penderfynodd Mr Jones brynu beic ail-law o siop elusen leol am £2.50 a'i adfer cyn postio llun o'r beic ar Twitter a'i gynnig am ddim i rywun oedd ei eisiau.
Ond ni ddisgwyliodd Mr Jones i'w brosiect dynnu'r fath sylw ag y cafodd: "Dwi wedi treulio'r wythnosau diwethaf yn boddi mewn beiciau.
"Mae i gyd yn newydd iawn i fi, nes i ddim disgwyl i bethau ffrwydro fel maen nhw wedi."
Ychwanegodd: "Mae rili wedi fy synnu i fod yn onest. Fel gofalwr llawn amser, does dim gyda ni lot o arian ein hunain, ond mae'n neud i chi sylweddoli bod gan rhai pobl problemau rili, rili gwael."
Yn ôl Mr Jones, mae nifer o bobl o fewn y gymuned leol yn methu fforddio anrhegion Nadolig i'w plant.
"Fi wedi cael pobl yn crio ar y ffon i fi bod nhw methu fforddio Nadolig," meddai.
"Mae rhain yn bobl sy'n gweithio hefyd, ond does ganddyn nhw ddim byd.
"Mae llawer ohonynt ddim yn cael eu talu tan ar ôl Nadolig ac maen nhw'n gaeth mewn sefyllfa ble dydyn nhw methu dathlu'r Nadolig."
Erbyn hyn, mae Mike wedi derbyn cefnogaeth o elusennau a mudiadau lleol, yn cynnwys y gymdeithas tai cymdeithasol Trevallis.
Dywedodd Sadye Baker, aelod o dîm cyfathrebu Trevallis, bod y gymdeithas wedi derbyn tri beic gan Mr Jones sydd wedi cael eu darparu i dri theulu yn ardal Rhondda Cynon Taf.
"Dwi'n credu mai beth mae Mike yn gwneud yn ffantastig, ac mae wedi gwneud i fi feddwl bach yn wahanol am y Nadolig," meddai hi.
"Gaethon ni e-bost gan fam un o'r bechgyn derbyniodd beic, a dywedodd hi bydd hwn wir yn gwella'i Nadolig nhw.
"Mae'n meddwl bydd bachgen bach gyda rhywbeth i agor ar ddydd Nadolig. Roedd hi'n teimlo bod hi wir wedi gadael ei theulu lawr oherwydd doedd hi wir methu fforddio'r Nadolig."
Elusen arall sydd wedi derbyn beiciau gan Mr Jones yw Gap Wales, sy'n rhoi cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghasnewydd.
Dywedodd Mark Seymour, sy'n cynnal gweithdai trwsio beiciau i ffoaduriaid gyda Gap Wales, ac sydd wedi derbyn rhai beiciau gan Mr Jones: "Mae hwn yn esiampl o gymunedau'n cymryd cyfrifoldeb dros eu hunain.
"Mae beth mae Mike yn gwneud, a beth rydym ni'n gwneud, yn dangos bod prosiectau llawr-gwlad cymunedol yn gweithio.
"Gallech chi gael yr holl brosiectau llywodraethol yn y byd, ond dyma beth rydyn ni'n gwneud, ac mae'n gweithio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2018