Chwaraeon: Pump i'w gwylio yn 2020

  • Cyhoeddwyd

Eleni am y pedwerydd tro, mae Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Owain Llŷr, wedi derbyn her Cymru Fyw i ddewis pum person ifanc i'w gwylio ym myd y campau yn 2020. Gadewch i ni wybod be' 'dych chi'n ei feddwl...

O'r 5 person ifanc y dewisais yr adeg yma llynedd, Aaron Wainwright sydd wedi creu y mwyaf o argraff.

Fe gafodd blaenasgellwr Y Dreigiau Gwpan Y Byd cofiadwy, a mae o wedi datblygu i fod yn un o'r chwaraewyr rheng-ôl gorau yn Ewrop.

Ond beth am 2020?

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Neco Williams. 18 oed. Pêl-Droed.

Chwaraewr hynod o dalentog sydd â dyfodol disglair o'i flaen.

Mae gan Lerpwl feddwl mawr ohono, ac fe chwaraeodd i dîm cyntaf y cochion am y tro cyntaf yn erbyn Arsenal yng Nghwpan Y Gynghrair ym mis Hydref. Yn y gêm honno fo greodd gôl i Divock Origi.

Mae o wedi chwarae i dîm dan-19 Cymru ar sawl achlysur, ond tydi o heb fod yn rhan o'r brif garfan eto.

Oherwydd ei oedran mae'n ddigon posibl y gwelwn ni o yn gadael Anfield ar fenthyg cyn bo hir. Ond mae'r gallu ganddo i fod yn aelod rheolaidd o garfan Lerpwl am flynyddoedd i ddod.

Elise Hughes. 18 oed. Pêl-Droed.

Mae hi'n barod wedi creu argraff ar y llwyfan rhyngwladol.

Mi arwyddodd Hughes ei chytundeb proffesiynol cyntaf 'efo Everton sy'n chwarae yn y Super League 'nôl ym mis Awst.

Fe ddechreuodd ei gyrfa yn chwarae yn yr amddiffyn, ond mae hi bellach yn chwarae yn yr ymosod.

Mae pêl-droed yn rhedeg yn ei gwaed, achos fe chwaraeodd ei thaid, David, i dîm dan-23 Cymru, tra fod ei thad Peter wedi chwarae i glwb Cei Connah.

Ioan Lloyd. 18 oed. Rygbi.

Un arall o gyn-ddisgyblion Ysgol Glantaf sy'n creu argraff ar y byd rygbi.

Mae'r maswr yn barod wedi creu hanes gan mai fo yw'r chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae i Fryste yn Uwch Gynghrair Lloegr. Ar ei ymddangosiad cyntaf ym mhrif adran Lloegr fe sgoriodd gais yn erbyn Caerfaddon.

Mae o wedi cadw maswr Iwerddon, Ian Madigan, allan o dîm Bryste ar adegau y tymor yma, ac mae'r gallu gan y Cymro i chwarae fel cefnwr ac fel asgellwr hefyd.

Doedd Lloyd ddim yn rhan o garfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Y Barbariaid gan ei fod yn chwarae i glwb yn Lloegr.

Ond gan gofio fod Gareth Anscombe a Rhys Patchell ddim yn holliach ar y funud, tybed a welwn ni Lloyd yn y garfan ar gyfer y Chwe Gwlad?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Louis Rees-Zammit. 18 oed. Rygbi.

Chwaraewr arall o Gaerdydd yn wreiddiol sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Ac fel Ioan Lloyd, mae Rees-Zammit hefyd wedi creu hanes y tymor yma, oherwydd yr asgellwr cyflym ydy'r chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio cais dros Gaerloyw yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

Rees-Zammit sgoriodd y cais buddugol yn y fuddugoliaeth o 26-17 yn erbyn Connacht, ac mae ei hyfforddwr Johan Ackermann wedi ei gymharu 'efo asgellwr Lloegr Jonny May.

'Speedy' yw ei lys-enw, ac yn ôl bob son mae Wayne Pivac yn cadw llygad barcud arno. Un arall sydd â chyfle i gael ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad.

Jeremiah Azu. 18 oed. Athletau.

Un o'r rhedwyr ifanc cyflymaf yn Ewrop.

'Nôl ym mis Mai fe lwyddodd i redeg 100m mewn amser o 10.27 eiliad yn Loughborough.

Azu oedd y ffefryn clir i ennill y fedal aur ym Mhencampwriaethau dan-20 Ewrop yn Sweden dros yr haf, ond yn anffodus mi gafodd anaf yn ystod y rownd derfynol.

Mae o wedi dweud yn gyhoeddus mai ei freuddwyd ydy bod y rhedwr 100m cyflymaf yn y byd. Mae 'na dal siawns y gall Azu gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo yn 2020, ond mae cystadlu yn y Gemau ym Mharis yn 2024 yn nod mwy realistig.