Cymhwyster artistiaid tatŵ i 'amddiffyn y cyhoedd'
- Cyhoeddwyd
Fe fydd rhaid i artistiaid tatŵ sicrhau cymhwyster penodol cyn ymarfer eu crefft dan gynlluniau Llywodraeth Cymru.
Fe fyddai'r newidiadau hefyd yn effeithio clinigau sy'n cynnig tyllu'r corff, electrolysis a nodwyddo, fel rhan o Fesur Iechyd Cyhoeddus 2020.
Bwriad y cymhwyster yw diogelu'r cyhoedd rhag unrhyw niwed a all godi oherwydd ymarfer gwael.
Ddydd Mercher fe fydd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, yn cyflwyno'r cymhwyster newydd i'r rhai sydd wedi cymhwyso mewn seremoni yng Nghaerdydd.
'Fe allai wneud gwahaniaeth mawr'
15 mlynedd yn ôl roedd tua 60 o siopau tatŵ yng Nghymru, erbyn hyn mae 532 o artistiaid wedi eu cofrestru mewn tua 450 o fusnesau trwyddedig.
Mae rheolwr un o'r rheiny, Lee Clements o Chimera Tattoo Emporium yn Y Barri, wedi bod yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn llunio'r cymhwyster.
"Rwy'n hapus iawn gyda'r modd mae Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â hyn," meddai Mr Clements, sy'n gynrychiolydd Cymru ar y Ffederasiwn Artistiaid Tatŵ Prydeinig.
"Pan gafodd y syniad ei wyntyllu gyntaf, roedd nifer o fewn y diwydiant yn amheus iawn.
"Ond maen nhw wedi ymgynghori yn agos gydag artistiaid tatŵ gan roi cyfle i nifer ohonom i gyfrannu syniadau a chwestiynau yn yr arholiad.
"Mae'r rhan fwyaf o gwestiynau yn ymwneud â hylendid, fel pa fath o offer ddylid ei ddefnyddio... a'r ffordd orau o lanhau.
"O bosib fod hyn yn swnio'n elfennol, ond fe allai wneud gwahaniaeth mawr wrth geisio rhwystro heintiau a phroblemau iechyd."
'Amddiffyn y cyhoedd'
Mae Cara Williams o Gaergybi yn artist tatŵs yng Nghaernarfon, a dywedodd ar raglen y Post Cyntaf ddydd Mercher ei bod hi'n croesawu'r cymhwyster.
"Mae'n rhoi reassurance i'r cwsmer, os mae rhywbeth yn digwydd, maen nhw'n gwybod beth i'w wneud.
"Dwi'm yn meddwl ei bod hi'n deg bod rhywun rhywun yn gallu tatŵio. Dydy o ddim yn rhywbeth i chwarae o gwmpas.
"Da 'ni i gyd yn mynd ar gwrs a deall pob dim am yr infections. Dydy o ddim yn neis i gwsmer ddod fewn a gofyn 'Be ydw i fod i 'neud os oes infection?' a ni wedyn ddim yn gwybod.
"Da ni'n steralisio pob dim a llechio pob dim ar ôl ei iwsio nhw un waith a gorfod neud yn siŵr ein bod yn gwybod beth i wneud efo'r cwsmer, maen nhw'n fwy pwysig na neb."
"Fe fydd yn rhaid i fusnesau ac unigolion sy'n ymgymryd â gweithredoedd fel tatŵs, tyllu'r corff, nodwydd ac electrolysis, gydymffurfio gyda system drwyddedu orfodol," meddai Dr Atherton.
"Fe fydd y drefn yn amddiffyn y cyhoedd rhag heintiau sy'n gysylltiedig gydag ymarfer gwael, ac yn sicrhau'r safonau gorau."
Pan fydd y ddeddf newydd yn dod i rym fe fydd yn rhaid i unigolion sicrhau'r cymhwyster newydd er mwyn gallu gwneud cais am drwydded.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2016