Pwy oedd Lleucu Llwyd a Myfanwy?
- Cyhoeddwyd
Rydyn ni wedi canu'r enwau ganwaith, heb ystyried efallai pwy yn union ydyn nhw. Pwy felly ydi'r cymeriadau y mae cymaint o sôn amdanynt mewn hen ganeuon Cymraeg? Beth oedd mor arbennig amdanyn nhw?
Dyma gipolwg ar ambell un.
Lleucu Llwyd
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
O! mae rhywun yn agosáu...
Mae Lleucu Llwyd yn un o ganeuon mwyaf poblogaidd Y Tebot Piws, a recordiwyd yn 1970. Ond mae hanes y ferch hardd ac angylaidd honno'n mynd yn ôl dros 600 mlynedd.
Lleucu Llwyd oedd cariad y bardd Llywelyn Goch ap Meurig Hen (fl. 1350 - 1390). Yn dilyn marwolaeth Lleucu canodd y bardd un o gerddi enwocaf llenyddiaeth Gymraeg iddi sef Marwnad Lleucu Llwyd. Merch o Bennal, rhwng Machynlleth ac Aberdyfi oedd Lleucu a oedd yn 'werth y byd' i Lywelyn Goch a Dewi Pws!
Dafydd 'R Abar
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Dafydd 'R Abar wedi ei anfarwoli yn y gân sy'n sôn am ei gwch "yn llawn o benwaig cochion, a'r rheiny wedi drewi, meddan nhw". Ond David Pritchard oedd ei enw go iawn.
Wrth droed y castell yng Nghaernarfon mae pont droed ar draws yr Afon Seiont i Goed Helen a'r Foryd. Ond cyn y flwyddyn 1900 roedd rhaid talu hanner ceiniog i deithio un ffordd ar y fferi oedd yn cael ei rhedeg gan ddau ddyn lleol, David Pritchard, (1808 - 1884) a'i fab, David Charles Pritchard, (1851 - 1927).
Ar ôl clywed yn 1897 bod pont am gael ei hagor ar draws Afon Seiont roedd Dafydd, y mab, oedd wedi etifeddu'r busnes erbyn hyn, yn gwybod y byddai'n colli ei fywoliaeth am byth, felly fe wnaeth gais am iawndal gan Gyngor y Dref.
Agorwyd y bont ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1900 ac fe gafodd Dafydd ei arian gan y Cyngor. Er nad oes gwybodaeth am yr union swm, roedd yn cael ei ystyried ar y pryd yn swm digon sylweddol a wnaeth alluogi Dafydd i fuddsoddi mewn busnes arall. Prynodd eiddo, Becws a Siop ym Mryngwyn, Llanrug.
Gwerthodd y cwbl mewn ocsiwn yn 1903. Bu farw yn 1927 ac fe'i claddwyd ym mynwent Llanbeblig, Caernarfon.
Does neb yn gallu dweud yn union pa un o'r ddau oedd y Dafydd 'R Abar gwreiddiol, y tad ynteu'r mab, ond mae cofnod bod yr un alaw (fersiwn Saesneg o'r gân ydi She'll be coming round the mountain) yn cael ei chanu yn America yn yr 1890au.
Huw Puw
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae sŵn ym Mhorthdinllaen...
Dros y blynyddoedd mae llu o fandiau, corau ac unawdwyr wedi canu am Fflat Huw Puw heb wybod mai Sais oedd y llongwr yn wreiddiol.
Er bod ei deulu'n hannu o ardal Dolgellau, ganwyd Hugh Pugh yn Lerpwl tua 1795. Dilynodd yrfa ar y môr gan ddod yn gapten ar 'fflat' - math arbennig o gwch - o'r enw Ann a oedd yn cludo glo, coed a haearn rhwng Runcorn, Lerpwl, Caernarfon a Phorthdinllaen.
I fod yn nes at ei waith symudodd Huw i Gaernarfon i fyw. Ar ôl ymddeol fe symudodd i dŷ bychan ar lan Y Fenai ym mhlwyf Llanidan, Môn.
Roedd yn gymeriad a hanner ac mae llu o straeon amdano. Bu'r hanesion yn sail i Ganeuon Huw Puw gan J Glynne Davies.
Un stori ddifyr amdano yw ei fod mewn tafarn ym Mhwllheli'n cael peint a rhywun yn dod i mewn dan weiddi ar Huw bod ei gwch ar dân. Eisteddodd Huw yn dawel ac ordo peint arall. Cyn hir daeth rhywun arall i mewn i ddweud yr un peth ond aros yn ei unfan wnaeth Huw a gofyn am fwy o gwrw.
Peth amser wedyn daeth criw o longwyr i mewn wedi ymlâdd ac yn brolio eu bod wedi llwyddo i ddiffodd y tân. "Diolch," meddai Huw'n hamddenol, "'does gen i ddim ond gobeithio y ca' innau gyfle i wneud yr un fath i chithau ryw ddiwrnod!"
Ar 18 Hydref, 1858 aeth Ann i drafferthion wrth Ynysoedd Tudwal, Llŷn pan ar daith yn cludo coed o Borthaethwy i'r Bermo ac fe suddodd. Roedd gwraig Huw ac un o'i feibion ar ei bwrdd ar y pryd ond achubwyd pob un ohonynt.
Bu farw Huw saith mlynedd yn ddiweddarach yn ei gartref yn Llanidan, yn 70 oed ar 10 Awst, 1865. Mae wedi ei gladdu yn y fynwent leol.
Myfanwy
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Paham mae dicter?
Ffefryn Cymreig heb os gan bobl dros y byd i gyd yw'r gân Myfanwy a gyfansoddwyd yn y 1850au, ond pwy yn union oedd Myfanwy?
Merch o deulu cefnog ac uchel ei thras oedd Myfanwy Fychan a oedd yn briod â Goronwy ap Tudur Fychan ac yn byw yng nghyfnod yr 1400au. Roedd o deulu enwog Tuduriaid Penmynydd, Môn, un o hynafiaid Harri Tudur.
Daeth Myfanwy'n un o Gymry mwyaf adnabyddus yr Oesoedd Canol yn sgil nifer o gerddi a sgwennwyd iddi, yn arbennig Moliant Myfanwy Fychan o Gastell Dinas Brân gan Hywel ab Einion Lygliw (cyn iddi briodi Goronwy!) a oedd wedi syrthio mewn cariad mawr â hi.
Yn ôl y chwedl roedd Myfanwy'n hardd eithriadol ac yn denu sylw dynion cyfoethog o bob man ond ni châi ddim i'w wneud â nhw oni bai eu bod nhw'n gallu canu a 'sgwennu cerddi i foli ei harddwch. Un diwrnod magodd Hywel ab Einion ddigon o blwc i fynd efo'i delyn i ganu iddi.
Wrth ei swyno sylwodd Hywel nad oedd hi'n edrych ar neb arall ond fo a chymerodd ei bod hithau wedi syrthio mewn cariad ag o. Ond buan y gwelodd ddyn cefnog a golygus arall yn cael ei sylw llawn. Wedi torri ei galon aeth Hywel i grwydro'r goedwig leol tra'n cyfansoddi ei gerdd serch iddi.
Pedwar canmlynedd yn ddiweddarach argraffwyd geiriau'r gerdd mewn cyfrol o'r enw Myvyrian Archaiology of Wales yn 1801 a daeth y gerdd a Myfanwy ei hun i amlygrwydd eto ymysg cenhedlaeth arall o Gymry.
Fe ysbrydolodd y stori garu drist y bardd John Ceiriog Hughes i lunio cerdd i Myfanwy Fychan yn 1858, cerdd a ddaeth yn un o gerddi mwyaf poblogaidd y Cymry.
Ond ysgrifennodd bardd arall, Richard Davies (enw barddol 'Mynyddog') a oedd yn ffrind i Ceiriog, gerdd i Myfanwy hefyd. Fe ddenodd geiriau Mynyddog sylw'r cyfansoddwr Joseph Parry a luniodd alaw iddi. Teitl y gân oedd Myfanwy, sy' wedi dod yn un o'r caneuon Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed.
Mae beddrod ysblennydd Goronwy a Myfanwy i'w weld yn eglwys Sant Gredifael, Penmynydd, Ynys Môn.
Wil Amer
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Pan ddaw yr haf...
Cân boblogaidd arall yw Cychod Wil Amer sy'n cychwyn â'r geiriau 'Pan ddaw yr haf mi haliwn y cychod...'.
Mae'n sôn am baratoi dau gwch, Y Lili a'r Felinheli a chychod hwylio eraill cyn mentro allan ar y môr mawr. Wil a Mer yw ei henw gan Wil Tân, Cowbois Rhos Botwnnog ac eraill ond mae'r traddodiad llafar ar y llaw arall yn honni mai Wil Amer sy'n gywir.
Yn ôl y sôn, llongwr oedd Wil a'i fod wedi cael y llysenw Amer am ei fod â chysylltiad agos ag America oherwydd ei ddegau o fordeithiau yno, yn cludo llechi o'r hen Sir Gaernarfon.
Felly os yw traddodiad llafar glannau'r Fenai'n ddibynadwy, un person sydd yn y gân nid dau!
Hefyd o ddiddordeb