Adar 'wedi marw ar ôl y trawma o daro'r ddaear'

  • Cyhoeddwyd
AdarFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Mae canlyniadau cychwynnol wedi awgrymu mai'r trawma o daro'r ddaear wnaeth ladd cannoedd o adar ar lôn gefn yn Ynys Môn, ond dydy hi eto ddim yn glir pam wnaethon nhw blymio i'r ddaear.

Cafwyd hyd i tua 225 o ddrudwy marw ar y ffordd yn ardal Llyn Llywenan ger Bodedern ar 11 Rhagfyr.

Mae ymchwiliad yr Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Defra yn parhau ond mae swyddogion wedi cadarnhau bod profion am ffliw adar yn negyddol.

Ychwanegodd Defra bod wedi ymchwilio i nifer o achosion tebyg o farwolaethau drudwy torfol yn y gorffennol.

Cymar Dafydd Edwards, sy'n byw gerllaw, ddaeth o hyd i'r adar, ac fe ddisgrifiodd yntau'r olygfa "fel tasen nhw wedi disgyn o'r awyr".

Mae Heddlu Gogledd Cymru eisoes wedi datgan cred bod yna esboniad rhesymol i'r hyn ddigwyddodd ond doedden nhw ddim mewn sefyllfa eto i ddatgelu mwy o fanylion.