Pryder am fwy o droseddu ar ôl cau 163 clwb ieuenctid ers 2014
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon gall bobl ifanc ymwneud yn fwy â throsedd a chyffuriau os oes rhagor o glybiau ieuenctid yn cau yng Nghymru, yn ôl gweithwyr o fewn y sector.
Mae ffigyrau'r BBC yn dangos bod 163 o glybiau ieuenctid wedi cael eu cau gan gynghorau ers 2014.
Dywedodd un clwb yng Nghaerffili eu bod yn "begera am arian" i gadw pobl ifanc i ffwrdd o'r strydoedd.
Dywedodd y comisiynydd plant, Sally Holland, fod pobl ifanc yn eu harddegau yn "rhwystredig" am doriadau mewn cymunedau lle roedd delio cyffuriau a throseddau cyllyll ar gynnydd.
Mae cynghorau, elusennau a mudiadau yn y sector gwirfoddoli yn rhedeg gwasanaethau yng Nghymru, sy'n cynnwys gwaith i daclo digartrefedd a rhedeg clybiau ieuenctid.
Ond yn y blynyddoedd diweddar mae awdurdodau lleol wedi gwneud toriadau ac wedi ail-drefnu gwasanaethau.
Mae'r ffigyrau, a gafodd eu datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI), hefyd yn dangos gostyngiad sylweddol yn y nifer o weithwyr ieuenctid oedd yn cael eu cyflogi gan gynghorau yn y cyfnod hwnnw, gyda'r toriadau mwyaf ym Mhen-y-bont, Rhondda a Gwynedd.
Dywedodd nifer o grwpiau yn y sector gwirfoddol bod nhw'n gofyn am arian trwy'r amser, gyda rhai ar fin cau oherwydd problemau yn ymwneud â chyllid.
Beth am fy ardal i?
Y gogledd sydd wedi gweld y toriadau gwaethaf.
Yn 2018, caeodd Cyngor Gwynedd ei 39 clwb a'u hadleoli gyda gwasanaeth ledled y sir mewn ymgais i arbed £270,000.
Caeodd Conwy 15, Wrecsam 14 a Sir y Fflint 11, tra caeodd Sir Fôn 10 - gyda rhai o'r rheiny wedi'u cau oherwydd nad oedden nhw'n cael eu defnyddio, yn ôl y cyngor.
Rhondda oedd yr unig ardal i gynyddu'r niferoedd o glybiau ieuenctid - er i 20 gael eu cau cafodd 21 eu hagor yn eu lle mewn lleoliadau gwahanol.
Gwnaeth bob cyngor ond un ostwng y nifer o weithwyr ieuenctid maen nhw'n cyflogi - yn cynnwys ardaloedd fel Pen-y-bont, ble torrwyd y gweithlu i lai na hanner o'i gymharu â 2014.
Pan agorodd clwb ieuenctid Senghennydd yng Nghaerffili yn 1997, roedd gan yr ardal broblemau gydag ymddygiad gwrth-gymdeithasol a fandaliaeth.
Dywedodd Dave Brenton, sy'n rhedeg y clwb, bod creu lle diogel i bobl ifanc i gymdeithasu wedi helpu.
Tra bod y clwb yn derbyn cyllid o elusennau, dywedodd Mr Brenton eu bod "wastad yn begera am arian" a bod y sefyllfa nawr yn warthus.
"Dydyn ni ddim yn cael ein gweld fel rhywbeth sy'n hollbwysig, ond i'r bobl yma fan hyn rydym ni yn hollbwysig, rydym ni'n lle ble gallen nhw gael rhyddid a lleisio eu barn," meddai.
Yn Nyffryn Ardudwy yng Ngwynedd, cododd rhieni arian er mwyn ail-agor a rhedeg eu clybiau ieuenctid mewn pentrefi bach ar ôl i'r cyngor gau'r holl glybiau.
Mae'r clwb nawr wedi ymuno â'r tîm pêl-droed lleol, a gafodd ei sefydlu gan y gymuned hefyd, ac sydd hefyd yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i arian.
'Rhagolygon ariannol heriol'
Dywedodd Sally Holland fod gwasanaethau ieuenctid yn hanfodol fel llinell amddiffyn gyntaf yn erbyn problemau difrifol fel troseddau cyllyll a chyffuriau a bod angen buddsoddi.
"Mae'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod y gall gwariant ar waith ieuenctid arbed arian yn y tymor hir trwy helpu i gadw pobl ifanc yn hapus, yn iach ac yn ddiogel," meddai.
Ond dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod y rhagolygon ariannol ar gyfer cynghorau yn parhau i fod yn heriol ac y byddai angen gwneud penderfyniadau anodd o hyd.
"Mater i awdurdodau lleol unigol fyddai penderfynu sut mae gwasanaethau'n cael eu darparu a'u hariannu, gan ddefnyddio disgresiwn lleol yn unol ag amgylchiadau a chyllidebau lleol," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2019