Cyfarwyddwr newydd Pontio am 'wella amrywiaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwella amrywiaeth y bobl sy'n mynychu digwyddiadau canolfan Pontio ym Mangor, yn ôl cyfarwyddwr newydd y sefydliad.
Daeth Osian Gwynn i'w swydd ym mis Hydref, ac fe ddywedodd bod 'na waith i'w wneud yn Pontio ac ym mhob canolfan gelfyddydol i ddenu cynulleidfa amrywiol.
Agorodd Pontio yn 2015 ac mae'n gartref i Theatr Bryn Terfel, gofod stiwdio a sinema, yn ogystal â rhai adnoddau Prifysgol Bangor.
Dywedodd Mr Gwynn hefyd bod y Gymraeg yn ganolog i'w weledigaeth.
Mae Osian Gwynn yn olynu Elen ap Robert a oedd yn gyfarwyddwr artistig ar Pontio drwy'r broses adeiladu hyd at fis Awst 2019.
Roedd Mr Gwynn, sy'n dod o Lanelli, yn gweithio i Gyngor Celfyddydau Cymru cyn cymryd yr awenau ym Mangor.
Dywedodd Mr Gwynn wrth BBC Cymru fod canolfannau'r celfyddydau i gyd yn wynebu'r un her.
"Mae 'na waith i'w wneud yn bendant, gyda ni a gyda phob canolfan gelfyddydol am wn i ar draws Cymru a Phrydain," meddai.
"Mae Bangor yn ddinas amrywiol, a dinas gyfoethog iawn sy'n llawn diwylliant a diwylliannu gwahanol.
"Dwi'n meddwl bod cyflwyno arlwy maen nhw'n gallu uniaethu ag e, ac maen nhw'n gallu gweld eu hunain wedi'u cynrychioli ar lwyfan, yn bwysig.
"Ond dwi bendant yn meddwl bod gwaith i'w wneud yng Nghymru gyfan, ond hefyd yn Pontio i gyrraedd yr ystod fwyaf eang o bobl."
'Gwaith i'w wneud'
Fel rhan o ddigwyddiadau'r Nadolig mae Pontio wedi cyflwyno sioe i blant, Y Trol Wnaeth Ddwyn y 'Dolig, yng ngofod y stiwdio tra bod Gruff Rhys wedi canu yn Theatr Bryn Terfel.
Er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol, mae Osian Gwynn yn dweud ei fod yn ymgynghori'n eang.
"Mae angen bod yn rhagweithiol ac edrych am waith, ac edrych am waith sydd yn teithio, ac mae hwnna yn rhan fawr o 'ngwaith i - sef i edrych am y gwaith sydd yn mynd i apelio.
"A yw opera, a band sy'n teithio Prydain yn canu cerddoriaeth bop, yn mynd i apelio at yr un ddemograffeg? Na. Felly'r peth pwysig yw'r amrywiaeth, siarad am yr amrywiaeth a chyfathrebu'r amrywiaeth yn y ffordd iawn.
"Yn bendant mae'n rhan o'n strategaeth i wrando ar drawstoriad eang o bobl, i deimlo bod nhw yn cael mewnbwn i'r rhaglenni, ac wedyn yn teimlo bod nhw'n gallu dod yma. Ond mae yna bendant waith i'w wneud."
Fe fydd rhagor o nosweithiau comedi yn y dyfodol, a'r ymweliadau cyson gan gwmnïau cenedlaethol yn parhau.
Ond pwy fyddai'n berfformiwr delfrydol i'r cyfarwyddwr newydd?
"Dwi'n eithaf hoff o cross-over, sef y clasurol a'r pop," ychwanegodd.
"Fi'n mwynhau gweld y ddau yn dod at ei gilydd a bod e dal yn rhywbeth safonol iawn, ond yn rhywbeth sydd yn dod â chynulleidfaoedd gwahanol at ei gilydd.
"Mae 'na gyfansoddwr o'r enw Ólafur Arnalds o Wlad yr Iâ. Es i i'w weld yn y Royal Albert Hall. Mae wedi cyfansoddi lot o gerddoriaeth ar gyfer teledu, rhaglenni fel Broadchurch.
"Mae'r gerddoriaeth yn hudolus, ac yn ei sioeau ef mae'r gweledol yn anhygoel hefyd. Rhywun fel fe, os oedd gen i wish-list, fyddai ar y top!"
'Y Gymraeg yn gryf'
Mae Pontio eisoes yn meithrin theatr yn Gymraeg, ac yn gweithio'n aml gyda Theatr Genedlaethol a Theatr Bara Caws.
Yn anochel, mae rhoi llwyfan i gynyrchiadau newydd yn yr iaith Gymraeg yn flaenoriaeth i Osian Gwynn.
"Un o'n weledigaethau mawr i yw fod hwn yn gartref i theatr a chelfyddyd yn yr iaith Gymraeg.
"Mae'n bwysig iawn i fi yn genedlaethol, ond hefyd yng Ngwynedd fel ardal lle mae'r iaith Gymraeg yn gryf, fod Pontio yn gartref i theatr yn yr iaith Gymraeg.
"Yn bendant mae'r iaith Gymraeg yn llifo yn benodol iawn trwy fi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd7 Awst 2019
- Cyhoeddwyd16 Medi 2019