Gwrthdrawiad bws: Teithiwr o China'n marw o'i hanafiadau
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 36 oed wedi marw o'i hanafiadau ar ôl i fws deulawr daro pont rheilffordd yn Abertawe.
Roedd Jessica Jin Ren yn un o wyth o deithwyr gafodd eu hanafu wedi'r gwrthdrawiad ar Ffordd Castell-nedd ar 12 Rhagfyr.
Roedd yn academydd o Brifysgol Huanghuai yn China ac wedi ymuno am gyfnod gydag adran Cyllid a Chyfrifon Ysgol Rheolaeth, Prifysgol Abertawe.
Dywed Heddlu De Cymru bod dyn 63 oed a gafodd ei arestio yn syth wedi'r gwrthdrawiad wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.
'Academydd talentog'
Dywedodd teulu Ms Ren mewn datganiad: "Roedd Jessica yn wraig gariadus Wenquang Wang, ac yn fam oedd wedi llwyr ymroi i'w mab pump oed Yushu Wang a'i merch Mingqui Ren.
"Roedd hi'n academydd talentog ac roedd pawb yn ei charu. Mae yna fwlch mawr wedi ei adael ar ei hôl o ran ei theulu a'i cyfeillion yn China ac Abertawe."
Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i'r farwolaeth, gyda'r disgwyl y bydd y gwrandawiad llawn yn dechrau ym Mehefin 2020.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe eu bod mewn "sioc ac yn tristáu o glywed am farwolaeth Jessica Jing Ren" a'u bod yn cydymdeimlo â'i theulu.
Roedd Kevin Young, y seren Olympaidd o America sy'n dal y record byd am yr amser cyflymaf yn y ras 400 metr dros y clwydi, ymhlith y teithwyr a gafodd eu hanafu.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De eu bod yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad ddigwyddodd tua 09:40.
Mae cwmni bysiau First Cymru hefyd wedi dechau ymchwiliad i'r gwrthdrawiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2019