Ymgais teulu am wely arbennig i'w mab
- Cyhoeddwyd
Mae teulu bachgen pedair oed yn ceisio codi arian ar gyfer gwely arbennig fyddai'n ei atal rhag tagu.
Mae gan Ashley Odugbesan esgyrn bregus iawn, clefyd ar ei ysgyfaint, cyflwr ar ei galon ac mae wedi ei gofrestru'n ddall.
Mae'n chwydu sawl gwaith y dydd felly mae angen ei gadw'n unionsyth tra yn ei wely, medd ei fam Charlette.
Dywedodd hi fod gwely arbennig yn cael ei ddarparu pan oedden nhw'n byw yng Nghaerdydd. Ond fe symudon nhw i Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, er mwyn bod yn agosach at weddill y teulu, ac nid yw Ashley'n gymwys yno.
Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf mai cyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw darparu gwely, a'u bod nhw'n "cefnogi'r teulu gyda'i hangen am wely arbennig, ac wedi herio'r bwrdd iechyd".
Mae gan y gwely arbennig ochrau uchel er mwyn atal Ashley rhag codi heb gymorth yng nghanol nos.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg nad ydyn nhw'n gwneud sylw ar achosion unigol.
Ond ychwanegodd: "Pan fydd pryderon yn cael eu codi fe wnawn ni ystyried y broses yn ofalus ac adolygu lle bod hynny'n briodol."
Mae elusen ar gyfer plant anabl, Newlife, wedi darparu benthyciad brys o wely arbennig, ond dywedodd fod angen gwely parhaol o hyd ar gost o £5,830.
Mae'r elusen yn apelio am gymorth i gael gwely i Ashley, ac mae person anhysbys wedi addo paru pob rhodd ariannol.
'Fe allai dagu'
Dywedodd Ms Odugbesan nad oedd hi'n "gallu dychmygu" sut fyddai bywyd heb y gwely.
"Fydden ni ddim yn medru cysgu o gwbl...mae'n bryder enfawr," ychwanegodd.
"Fyddai ddim yn ddiogel yn y nos oherwydd y risg y galli ddisgyn i lawr y grisiau... fyddai e ddim yn gallu cysgu chwaith - pe byddai'n chwydu fe allai dagu.
"Allwn i ddim gwneud heb y gwely."
Dywedodd hefyd: "Dwi'n difaru symud i fyw yma... mae wedi bod yn ofnadwy. Rwy'n teimlo fel dinesydd eilradd.
"Dyw e jyst ddim yn deg arno fe oherwydd fedrai ddim edrych ar ei ôl e'n iawn...
"Ddylen ni ddim gorfod brwydro am wasanaethau fel hyn - mae bywyd yn ddigon caled.
"Rwy'n credu dylai pwy bynnag sy'n gwneud y penderfyniadau yma ddod yma i dreulio diwrnod gydag Ashley... fydden nhw'n rhoi popeth iddo wedyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2019