Cyhoeddiad i gau siopau'n 'ergyd' i Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyhoeddiad y bydd siopau adnabyddus yn diflannu o ganolfan siopa yng Nghaerfyrddin yn y flwyddyn newydd wedi cael ei disgrifio fel "ergyd" i'r dref gan aelod o'r siambr fasnach leol.
Bydd siopau Topshop, Topman a Miss Selfridge yn cau ar 14 Mawrth 2020 - lai na 10 mlynedd ers iddyn nhw agor fel rhan o ganolfan newydd Rhodfa Santes Catrin.
Dywed cwmni Arcadia, sy'n berchen ar y siopau, eu bod yn ceisio cynnig cyfleoedd gwaith eraill o fewn y grŵp i'r aelodau staff sy'n cael eu heffeithio.
Yn ôl Henry Wilkins o Siambr Fasnach Caerfyrddin mae'n fwy anodd i ddenu busnesau newydd i lenwi siopau mawr na rhai bach.
"Pan fo unrhyw siop yn cau, mae'n gadael bwlch," meddai.
"Mae un neu ddou wedi bod yn wag am fisoedd - dim yn dod yn cymryd eu lle nhw.
"Siopa' bach - ma' nhw'n llai o seis... os ma' nhw'n dod yn wag, chwe mis a ma' rhywun yn dod yn lle nhw."
"Mae'r trethi - y business rates - yn ofnadw' a ma' raid i'r llywodraeth newydd [yn San Steffan] wneud rhywbeth ymbiti fe."
Ychwanegodd bod Caerfyrddin yn wynebu mwy o gystadleuaeth nag yn y gorffennol o drefi eraill yn y gorllewin a'r canolbarth, a bod angen ystyried effaith diffyg parcio am ddim ar ganol trefi a siopau'r Stryd Fawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd14 Medi 2016