£900,000 i Heddlu'r De i fynd i'r afael â thrais

  • Cyhoeddwyd
CyllellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y troseddau treisgar sy'n cael eu cofnodi wedi cynyddu 35% mewn rhai mannau

Bydd de Cymru yn derbyn bron i £900,000 fel rhan o gynllun gwerth £35m gan y Swyddfa Gartref i geisio mynd i'r afael â'r cynnydd mewn troseddau treisgar.

Cafodd bron i 40,000 o droseddau treisgar eu cofnodi yn yr ardal y llynedd, gyda rhai mannau wedi gweld cynnydd o hyd at 35%,

Mae'r gronfa yn cael ei rhedeg gan asiantaeth sy'n cynnwys yr heddlu, cynghorau a byrddau iechyd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel fod "Heddlu De Cymru yn arwain ar waith da".

Bydd y nawdd o £880,000 yn cael ei roi i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael, er mwyn rhedeg Uned Lleihau Trais De Cymru.

'Cydweithio yn allweddol'

Cafodd 39,691 o droseddau treisgar eu hadrodd i Heddlu De Cymru rhwng Rhagfyr 2019 a Thachwedd 2019.

Yn siroedd Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot fe wnaeth nifer y troseddau o'r fath gynyddu 35%.

Ers iddo gael ei sefydlu yn gynharach eleni mae'r uned yn ne Cymru wedi ariannu prosiectau er mwyn ceisio atal pobl ifanc rhag troseddu.

Dywedodd Mr Michael: "Cydweithio yw'r cynhwysyn allweddol os ydyn ni am leihau trais, gan ei atal yn y lle cyntaf yn hytrach na gorfod ymateb pan fo pethau drwg yn digwydd."

Mae'r uned eisoes wedi derbyn £1.2m o gyllid Heddlu De Cymru.