Rhys Webb ar gael i chwarae i Gymru yn y Chwe Gwlad

  • Cyhoeddwyd
Rhys Webb yn erbyn De Affrica yn Rhagfyr 2017Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gêm ryngwladol ddiwethaf Rhys Webb yn erbyn De Affrica yn Rhagfyr 2017

Mae'r mewnwr, Rhys Webb wedi cael caniatâd arbennig i fod ar gael i gynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Mae dyfarniad y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) yn dilyn penderfyniad Webb i ddychwelyd i Gymru o Ffrainc ac ailymuno â'r Gweilch ar ddiwedd y tymor.

Roedd hynny wedi i'w glwb presennol, Toulon, gytuno i'w ryddhau o'i gytundeb flwyddyn yn gynnar am resymau teuluol.

Mae'r PRB wedi cymeradwyo cais gan y mewnwr 31 oed i gael ei hepgor am chwe mis o bolisi Undeb Rygbi Cymru sy'n atal Cymru rhag dewis chwaraewyr gyda chlybiau tu hwnt i Gymru sydd heb gael o leiaf 60 o gapiau.

31 o gapiau oedd gan Webb pan gafodd y rheolau eu newid.

Dan delerau arferol y polisi, fyddai hyfforddwr newydd Cymru, Wayne Pivac, ddim wedi cael ystyried cynnwys Webb yn ei garfan tan 1 Gorffennaf 2020.

Ond mae penderfyniad y PRB yn golygu y gallai nawr gael ei ystyried ar gyfer gêm gyntaf Cymru yn ymgyrch y Chwe Gwlad eleni yn erbyn Yr Eidal yn Stadiwm Principality ar 1 Chwefror.