Ymgyrch i fynd i'r afael â digartrefedd cudd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch i fynd i'r afael â digartrefedd cudd.
Gall enghreifftiau o ddigartrefedd cudd gynnwys pobl sy'n aros ar soffa ffrind, mewn hostel neu gysgodfan nos yn hytrach na chysgu ar y stryd.
Mae ffigyrau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Crisis yn awgrymu bod 3,250 o bobl yn "cysgu ar soffa" bob nos.
Dywed Llywodraeth Cymru bod pobl sy'n wynebu digartrefedd cudd yn fwy tebygol o gael eu hecsbloetio wrth i bobl gael eu gorfodi i chwilio am le i aros.
Targedu'r ifanc
Mae'r ymgyrch wedi'i thargedu yn benodol at bobl ifanc a allai fod yn ddigartref neu sydd mewn perygl o hynny.
Yn ôl y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, dyw llawer o bobl ifanc sy'n wynebu digartrefedd cudd ddim yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd.
"Os nad oes gennych le chi'n galw'n adref yna y tebygrwydd yw eich bod yn wynebu 'digartrefedd cudd'.
"Os ydych yn wynebu digartrefedd cudd neu yn debygol o'i wynebu mae angen i chi gael cymorth.
"Dyw hi byth yn rhy hwyr neu'n rhy gynnar i ofyn am help."
Mae'r ymgyrch hefyd yn targedu y rhai sy'n dod i gysylltiad â phobl ifanc er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o arwyddion digartrefedd cudd.
Mae arwyddion o ddigartrefedd cudd yn cynnwys:
Anawsterau gyda rhieni neu deulu agos;
Amharodrwydd i fynd adref;
Cario eu heiddo gyda nhw ac anhawster i gadw dillad yn lân;
Gofyn am gymorth ariannol a defnyddio banciau bwyd;
Colli swydd;
Problemau iechyd meddwl neu gorfforol.
Mae strategaeth Llywodraeth Cymru i atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd yn nodi bod "angen deall maint y broblem er mwyn darparu ateb digonol.
"Mae ystadegau digartrefedd statudol ond yn cyflwyno rhan o'r darlun - ry'n yn gwybod bod llawer mwy o unigolion nad yw'r gwasnaethau priodol yn gwybod amdanynt - yn eu plith pobl sy'n mynd o soffa i soffa neu'n aros mewn llety anniogel."
Dywed Llywodraeth Cymru hefyd eu bod yn ariannu Shelter Cymru i ddarparu cyngor annibynnol ac i roi cefnogaeth.
Dywedodd cyfarwyddwr Shelter Cymru, John Puzey: "Ry'n yn ymwybodol bod profiadau digartrefedd cynnar ac aml yn gallu esgor ar faterion mwy cymhleth sy'n golygu y gallai pobl fod yn ddigartref gydol eu bywyd.
"Dyna pam eu bod mor bwysig bod atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn flaenoriaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2019