Golden Globe i Taron Egerton am bortreadu Elton John
- Cyhoeddwyd
Mae'r actor Taron Egerton wedi cipio gwobr yn seremoni'r Golden Globes am ei bortread o'r canwr Elton John yn y ffilm Rocketman.
Daeth i'r brig yng nghategori'r actor gorau mewn ffilm gerddorol neu gomedi yn y seremoni yn Los Angeles.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd yr actor a gafodd ei fagu yn Aberystwyth: "Mae'r rhan yma wedi newid fy mywyd."
Disgrifiodd y ffilm fel "profiad gorau fy mywyd, mae wedi bod mor llawn gorfoledd".
Ychwanegodd: "I Elton John, diolch am y gerddoriaeth, am fyw bywyd mor anghyffredin a diolch am fod yn ffrind."
Roedd yna wobr hefyd i Syr Elton ei hun, ar y cyd â'i gyd-gyfansoddwr Bernie Taupin, yng nghategori'r gân orau mewn ffilm am y gân I'm Gonna Love Me Again yn Rocketman.
Mae Egerton wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr Grammy am albwm o ganeuon Elton John o'r ffilm.
Bydd y seremoni yna'n cael ei gynnal ddiwedd Ionawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2020