Honni 'agwedd anonest' Rhys Webb
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib fod Rhys Webb wedi chwarae ei gêm olaf dros Toulon yn Ffrainc wedi i berchennog y clwb ei gyhuddo o "agwedd anonest" dros ei symudiad yn ôl i Gymru.
Bydd mewnwr Cymru a'r Llewod yn dychwelyd i'r Gweilch y tymor nesaf wedi iddo gael ei rhyddhau o'i gytundeb gyda Toulon flwyddyn yn gynnar am resymau teuluol.
Yna ddydd Gwener fe gafodd ganiatâd arbennig i fod ar gael i chwarae i Gymru unwaith eto ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020.
Cyn hynny, nid oedd yn gymwys i gynrychioli'i wlad oherwydd rheol Undeb Rygbi Cymru am ddewis chwaraewyr oedd yn chwarae y tu allan i Gymru.
Y tro diwethaf i Webb wisgo crys coch Cymru oedd yn erbyn De Affrica yn 2017 pan gafodd y rheol ei chyflwyno gyntaf.
Wrth siarad ar orsaf radio Sud Radio yn Ffrainc, dywedodd Bernard Lemaitre: "Mae ei deulu yng Nghymru...mae'n anodd iddo.
"Fe wnaethon ni roi digonedd o amser iddo fynd yn ôl i'w gweld. Gofynnodd Rhys i ni ei ryddhau o flwyddyn olaf ei gytundeb, ac fe wnaethon ni gytuno.
"Ond yn sydyn fe glywon ni ei fod eisoes wedi arwyddo i'r Gweilch a bod ei asiant eisoes wedi trafod gydag Undeb Rygbi Cymru fel ei fod ar gael. Mae'n agwedd anonest.
"Mae'n mynd â ni i sefyllfa lle dwi'n credu na fydd Rhys Webb yn chwarae eto mewn crys Toulon."
Ni chafodd Webb ei gynnwys yng ngharfan Toulon ar gyfer eu gêm yn erbyn Castres dros y penwythnos, a gwrthododd y prif hyfforddwr Patrice Collazo ateb cwestiynau amdano wedi'r gêm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2019