£18m o iawndal wedi methiannau bwrdd iechyd Cwm Taf

  • Cyhoeddwyd
ysbyty brenhinol morgannwg

Mae merch "hynod" a gafodd ei geni gydag anabledd dybryd mewn ysbyty yn ne Cymru wedi cael pecyn iawndal gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n werth bron i £18m.

Dioddefodd y ferch, sydd bellach yn saith oed, brinder ocsigen yn ystod ei genedigaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant, yn 2012, ac fe fydd hi angen gofal 24 awr y dydd am weddill ei hoes.

Rhwygodd croth y fam yn ystod yr enedigaeth, ac roedd cyfreithwyr y teulu wedi honni bod oedi esgeulus wedi bod cyn yr enedigaeth cesaraidd.

Dywedodd William Featherby QC ar ran y ferch wrth yr Uchel Lys yn Llundain fod Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi cyfadde' cyfrifoldeb am ei hanafiadau yn llawn.

Ar ôl trafod, fe wnaeth y bwrdd iechyd gytuno i setlo am becyn iawndal sy'n werth £17.9m.

Ynghyd â swm cychwynnol o £7.75m, bydd y ferch yn derbyn swm blynyddol di-dreth i dalu am gostau ei gofal am weddill ei hoes.

Bydd y swm yna'n dechrau ar £92,000 y flwyddyn cyn codi i £155,000 y flwyddyn yn 2031.

'Ymddiheuro'n ddiamod'

Dywedodd Mr Featherby wrth y llys bod y ferch yn diodde' o anawsterau dysgu ac ymddygiad, a bod ganddi ddim synnwyr o berygl.

Mae'n araf iawn yn ymateb i boen, ac un tro fe gafodd losgiadau difrifol wrth gyffwrdd mewn plât metel poeth.

Ar ran y GIG, dywedodd Richard Booth QC na fyddai "unrhyw swm o arian" yn gallu gwneud yn iawn am anafiadau'r ferch wrth iddi gael ei geni.

Ond dywedodd wrth y llys: "Ar ran y bwrdd iechyd, rwyf am ymddiheuro yn ddiamod ac o waelod calon am y methiannau gofidus mewn gofal yn yr achos hwn.

"Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r rhieni am y gofal gwych y maen nhw wedi rhoi i'w merch.

"Mae'n ferch hynod, ac ni fyddai wedi gwneud y camau mawr ag y gwnaeth heb gefnogaeth ei rhieni."

Wrth gymeradwyo'r setliad, dywedodd y Barnwr Richardson ei bod yn "fwy na bodlon" bod y setliad er y budd gorau i'r ferch.