Adolygiad arall yn beirniadu Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Mae llywodraethiant Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn cael ei feirniadu mewn adolygiad newydd.
Yn gynharach eleni cafodd gwasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd eu rhoi mewn mesurau arbennig wedi i fethiannau difrifol ddod i'r amlwg.
Nawr, mae adolygiad ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) a Swyddfa Archwilio Cymru wedi darganfod methiannau ehangach, gan ddweud bod gormod o bwyslais ar dargedau yn hytrach na diogelwch cleifion.
Yn ôl yr adolygiad roedd lefel uchel o berygl i ddiogelwch cleifion yn gyffredin mewn rhai adrannau.
Wrth ymateb fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg eu bod yn ceisio mynd i'r afael â'r methiannau.
Fel rhan o'r adolygiad cafodd staff eu holi am weithdrefnau a'r mesurau oedd yna i ddysgu o gamgymeriadau.
Fe ddaeth i'r amlwg nad oedd y bwrdd iechyd wedi rhoi digon o sylw i ddiogelwch o fewn eu gwasanaethau er fod y bwrdd wedi rhoi pwyslais mawr ar dargedau a rheolaeth ariannol.
Roedd hyn yn bryder yn ôl Rhys Jones o AGIC: "Be' sy'n bryder fan hyn yw fod gan y bwrdd iechyd fwy o ffocws ar berfformiad yn erbyn targedau ariannol a diffyg ffocws 'falle na ansawdd y gwasanaethau sy'n cael eu darparu."
"Pan mae 'na broblemau yn digwydd yn y gwasanaethau, unai dyw'r bwrdd iechyd ddim yn ymwybodol ohonyn nhw neu dyw'r bobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau yma ddim yn teimlo eu bod nhw'n gallu dweud bod rhywbeth angen ei ddatrys."
Ychwanegodd ei fod yn synhwyro nad oedd "diwylliant y bwrdd iechyd yn galluogi unigolion i godi llaw a siarad mas ynglŷn â safon y gofal sy'n cael ei ddarparu."
Daeth yr adolygiad i'r casgliad bod system gymysglyd yn bodoli o ran sicrhau diogelwch cleifion yn ogystal â diffyg arweinyddiaeth ar wahanol lefelau.
Roedd diffyg gwybodaeth ymhlith staff bod rhannau eraill o'r sefydliad wedi'u harchwilio a bod angen eu gwella.
'Diwylliant o ofn'
Mewn rhai sefyllfaoedd nododd yr adroddiad bod diwylliant o ofn yn bodoli oedd yn effeithio ar hyder gweithwyr i gofnodi digwyddiadau neu gamgymeriadau.
Roedd chwarter y staff wnaeth ateb yr arolwg yn teimlo bod y sefydliad yn beio neu'n cosbi pobl oedd yn gysylltiedig â chamgymeriadau a theimlai bron i hanner y rhai wnaeth ymateb na fyddai rheolwyr yn gweithredu ar adborth staff.
Mae'r adroddiad hefyd yn codi pryderon nad oedd y bwrdd iechyd wedi mynd i'r afael â gwendidau rheoli risg gafodd eu codi mewn adroddiad gan yr arolygiaeth gofal yn 2012.
Dywedodd Dr Sharon Hopkins, Prif Swyddog Gweithredol dros dro Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, ei bod yn croesawu'r adolygiad ac yn derbyn yr argymhellion.
"Ry'n ni wedi ymrwymo i wrando ar ein staff, cleifion a phartneriaid a gweithio gyda nhw i wella ein systemau a'n prosesau i ddarparu'r safon orau o ofal i'n cymunedau," meddai.
"Mae gwaith eisoes ar y gweill i fynd i'r afael â'r materion allweddol yn yr adroddiad."
Fis Rhagfyr bydd AGIC a'r Swyddfa Archwilio yn cwrdd â Llywodraeth Cymru i roi eu hargymhellion ynglŷn â'r posibilrwydd o roi'r bwrdd iechyd cyfan mewn mesurau arbennig.
Mae gwasanethau mamolaeth yr ardal eisoes wedi eu gosod mewn mesurau arbennig.
'Brawychus, ond nid yn syndod'
Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn falch bod y bwrdd iechyd wedi derbyn y canfyddiadau'n "llawn" ac yn cymryd camau "sylweddol" i ddelio â nhw.
Ond mae yna "lwyth sylweddol o waith i'w wneud eto", meddai.
Ychwanegodd y byddai'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru gyfan yn dysgu o'r adroddiad ac mae wedi gofyn i benaethiaid ystyried sut maen nhw'n gweithio gan osod yr adroddiad yma fel cynsail.
Yn y cyfamser, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw canfyddiadau'r adroddiad yn "frawychus, ond nid yn syndod".
Dywedodd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol, Angela Burns fod yr adroddiad yn "fwy o dystiolaeth... sut mae pobl Cymru'n cael eu gadael i lawr" gan lywodraeth y Blaid Lafur.
Dywedodd Plaid Cymru y dylai'r Blaid Lafur fod â "chywilydd" o'r adroddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd22 Awst 2019
- Cyhoeddwyd4 Mai 2019
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2019